Mae’r amser wedi dod i ni eich gwahodd chi i gêm olaf tymor 2025-26, ac am dymor!
Ry’n ni’n ôl ym Mharc y Scarlets prynhawn Sadwrn ac yn croesawu’r Dreigiau yn rownd 18 Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT. Byddwn ni’n ffarwelio â’r chwaraewyr sy’n symud ymlaen ar ddiwedd y tymor ac yn eich croesawu chi ar y cae ar ôl y gêm ar gyfer y Sosbanfest cyntaf erioed.
Dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod ar gyfer y gêm fawr.
Pryd mae’r gic gyntaf?
Fe fydd y gêm yn dechrau am 17:15.
Oes modd prynu tocynnau ar y diwrnod?
Oes, ond byddwn yn agyrmell eich bod yn prynu’r tocynnau o flaen llaw i osgoi ciwio ar ddiwrnod gêm. Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor am 10 o’r gloch. Prynnwch eich tocynnau yma
Ydy siop y clwb ar agor?
Ydy, mae siop VX3 yn agor am 10 o’r gloch ac yn aros ar agor tan y gic gyntaf. Fe fydd y siop symudol tu allan i Arena FSG hefyd. Gallwch weld yr eitemau yma
Ble sydd orau i barcio?
Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.
- Pris yw £5 y car
- Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
- Gatiau’n agor am 13:00
Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.
Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.
Oes gwasanaeth bws?
Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. Fe fydd y bws olaf yn gadael Parc y Scarlets am 21:00.
Gallwch archebu eich tocyn bws yma

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?
Ydyn, ond nid ydym yn derbyn yr hen bapurau £50 a £20.
Pryd fydd gatiau’r stadiwm yn agor?
- 14:15 Arena FSG ar agor
- 14:15 Lolfa Strade yn agor ar gyfer cwsmeriaid lletygarwch a dalwyr tocyn tymor 1872 a Strade.
- 14:15 Bar Tanner Banc ar agor
- 14:15 Blychau lletygarwch ar agor
- 14:45 Lolfa Quinnell ar agor
- 15:15 Clwb Carwyn a Lolfa Phil Bennett ar agor
- 16:15 Gatiau’r eisteddlau a bariau ar agor i’r cyhoedd
Beth sy’n digwydd cyn y gêm?
Bore Sadwrn fe fydd gwyl rygbi gallu cymysg Sefydliad Gymunedol y Scarlets yn digwydd yng nghlwb rygbi Sêr y Doc Newydd o 11:00. Ewch draw i gefnogi timau dynion a menywod Rhyfelwyr Llanelli, tîm dynion Dragons All Stars, a thîm Menywod Ledbury.
Fe fydd Arena FSG yn llawn bwrlwm gyda’ch hoff weithgareddau gan gynnwys castell bownsio, DJ, gemau dawns a disgo, Cochyn, cyfarfod y chwaraewyr a paentio wynebau.
Fe fydd Lauren Fisher yn canu eich hoff ganeuon pop tu allan i Arena FSG o 16:00.

Bydd opsiynau bwyd a diod tu allan i’r Arena hefyd a digon o le i chi ymlacio a mwynhau’r awyrgylch.
Fe fydd y Tanner Banc ar agor cyn y gêm i chi gyfarfod eich ffrindiau.
Gwnewch yn siwr eich bod chi yn eich sedd yn gynnar oherwydd fe fyddwn ni’n ffarwelio ag un o arwyr y clwb gyda Jake Ball wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r gêm.
Ble allaf brynu tocyn 50-50?
Fe fydd gwerthwyr yn crwydro ym Mar Tanner Banc ac yn lolfeydd letygarwch cyn y gêm. Mae’r arian yn mynd at Gronfa Sefydliad Gymunedol y Scarlets.
Gallwch hefyd brynu ar y we yma
Beth sy’n digwydd hanner amser?
Fe fydd hi’n hanner amser prysur iawn felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n aros yn eich sedd i gefnogi pawb sy’n cymryd rhan.
Fe fydd y timau canlynol yn chwarae tag;
- Llambed dan 8
- Aberdaugleddau dan 7 ac 8
Fe fydd y timau canlynol yn cymryd rhan mewn rygbi cerdded;
- Pontypool Wizards
- Rhydaman
- Hendygwyn ar Dâf
- Ffwrnes
- Torfaen Swifts
- Arberth
Bydd Côr Meibion Dyffryn Tâf yn canu wrth ochr y cae.
Fe fyddwn ni’n cyhoeddi enillydd y raffl 50-50.
Beth am ar ôl y gêm?
Bydd Côr Meibion Dyffryn Tâf yn ein diddanu ni’n syth ar ôl y chwiban olaf wrth i ni baratoi ar gyfer y cyflwyniadau i’r chwaraewyr sy’n ymadael â’r clwb.
Unwaith i’r gwaith o osod y llwyfan ar gyfer y cyflwyniadau fe fyddwn ni’n eich croesawu chi gyd ar y cae i ddiolch a ffarwelio â nhw.
Yna, fe fyddwn ni’n croesawu Saxobeat i’ch diddanu chi yn ein Sosbanfest cyntaf erioed. Gwnewch yn siwr eich bod chi’n barod am barti!
Pwy yw’r mascot?
Enw: Owain Williams
Oed: 9
Hoff Chwaraewr: Sam Costelow
Ysgol: Ysgol Gorslas
Clwb: Waunarlwydd dan 10
