Be’ sy’ mlaen: Scarlets v Vodacom Bulls

Rob LloydNewyddion

Ry’n ni nôl ym Mharc y Scarlets ar gyfer Rownd y Plant.

Vodacom Bulls sy’n ymweld â ni ar gyfer rygbi nos Sadwrn yn rownd 16 BKT URC a dyma’r cyfan sydd angen i chi wybod cyn y gêm.

Pryd mae’r gic gyntaf?

Fe fydd y gêm yn dechrau am 7.45pm.

Oes modd prynu tocynnau ar y diwrnod?

Oes, ond byddwn yn agyrmell eich bod yn prynu’r tocynnau o flaen llaw i osgoi ciwio ar ddiwrnod gêm. Fe fydd y swyddfa docynnau ar agor am 11:30. Prynnwch eich tocynnau yma 

Ydy siop y clwb ar agor?

Ydy, mae sip VX3 yn agor am 10 o’r gloch ac yn aros ar agor tan y gic gyntaf. Gallwch weld yr eitemau yma

Ble sydd orau i barcio?

Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.

  • Pris yw £5 y car
  • Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod
  • Gatiau’n agor am 17:00

Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.

Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.

Oes gwasanaeth bws?

Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. Fe fydd y bws olaf yn gadael Parc y Scarlets am 22:10.

Gallwch archebu eich tocyn bws yma

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?

Ydydn, ond nid ydym yn derbyn yr hen bapurau £50 a £20.

Pryd fydd gatiau’r stadiwm yn agor?

  • 17:15 Lolfa Strade yn agor ar gyfer cwsmeriaid lletygarwch a dalwyr tocyn tymor 1872 a Strade.
  • 17:15 Bar Tanner Banc ar agor
  • 17:45 Arena FSG ar agor
  • 18:30 Band Ysgol Hwlffordd yn chwarae tu allan i Arena FSG
  • 18:45 Gatiau’r eisteddlau a bariau ar agor i’r cyhoedd

Beth sy’n digwydd cyn y gêm?

Mae digon o bethau yn digwydd yn Arena FSG cyn y gêm felly gallwch mewn i gael blas o’r hwyl.

  • Ymweliad gan chwaraewyr
  • Cestyll bownsio
  • Gemau hwyl
  • Siop VX3 y Scarlets
  • Bydd Esports Wales yn bresennol gyda gemau cyfrifiadurol, gan gynnwys PS5

Fe fydd y sgriniau teledu ym Mar Tanner Banc a’r lolfeydd lletygarwch yn dangos gemau Chwe Gwlad y Menywod.

Bydd Côr y Scarlets yn canu tu fewn i Eisteddle’r De Castell Howell am 19:00.

Bydd DJ Gnasher yn cynhesu’r dorf o 19:00 cyn i Fand Ysgol Hwlffordd chwarae wrth ochr y cae am 19:15.

Ble allaf brynu tocyn 50-50?

Fe fydd gwerthwyr yn crwydro ym Mar Tanner Banc ac yn lolfeydd letygarwch cyn y gêm. Mae’r arian yn mynd at Gronfa Sefydliad Gymunedol y Scarlets.

Gallwch hefyd brynu ar y we yma

Beth sy’n digwydd hanner amser?

Fe fydd pedwar tîm yn cymryd rhan yn her gicio Sefydliad Gymunedol y Scarlets. Gwnewch yn siwr o’u cefnogi. Bydd mwy o gerddoriaeth gan DJ Gnasher.

Fe fyddwn ni’n cyhoeddi enillydd y raffl 50-50.

Beth am ar ôl y gêm?

Ewch draw i Far Tanner Banc i gael sgwrs gyda’ch ffrindiau a mwynhau peint cyn mynd sha thre’.

Beth am weithgareddau rygbi cymunedol?

Croeso cynnes iawn i’r timau canlynol a fydd yn ymuno â ni;

Chwifio baneri

  • Llangennech D13
  • Cydweli D12s
  • London Welsh U9s
  • Lymm RUFC U8s

  • Dinbych y Pysgod D13
  • Cefneithin D12