Beth sy’ ‘mlân: Scarlets v Saracens

Rob LloydNewyddion

Ry’n ni’n ôl yn y Parc ar gyfer 2026-27 a’n gêm gyfeillgar olaf cyn i ni gychwyn ein taith ar ein hymgyrch Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.

Dyma’ch amseroedd: 

09:00 Swyddfa docynnau ar agor: prynnwch eich tocynnau o flaen llaw yma

09:00 Siop VX3 ar agor

14:00 Maes Parcio B ar agor

15:30 Cofrestru Gwyl Rygbi IntroTeach

16:00 Gwyl Rygbi IntroTeach i gychwyn

16:30 Maes Parcio TATA Steel ar agor

17:00 Lolfa Strade ar agor

17:00 Tanner Banc ar agor

17:00 Lletygarwch ar agor

17:30 Bws wennol i adael orsaf drenau Caerfyrddin

18:00 Gatiau Eisteddle Gogledd Owens Group ar agor

18:00 Sesiwn cyfarfod chwaraewyr yn siop VX3 gyda Jonny Williams, Dan Davis, Kemsley Mathias

18:30 Gatiau Eisteddle De Castell Howell ar agor

19:30 Cic gyntaf Scarlets v Saracens

18:30 Gatiau Eisteddle De Castell Howell ar agor

Mae parcio cyhoeddus ar gael ym Maes Parcio B ar ochr Trostre.

  • Pris yw £5 y car
  • Derbyniwn taliadau cerdyn ac arian parod

Gofynnwn i chi beidio â pharcio ar y strydoedd o amgylch y stadiwm. Hoffwn eich hatgoffa hefyd i beidio a pharcio ar y glaswellt o amgylch y Parc oherwydd gall hyn ddifrodi’r amgylchedd a chreu trafferth i draffig ar yr heolydd. Fe fydd cerbydau sydd wedi parcio yn anghyfreithlon yn cael eu clampio.

Mae rheolau parcio yn yr ardaloedd siopa cyfagos hefyd ac yn defnyddio camerau adnabod cerbydau. Fe fyddwch yn derbyn dirwy os ewch dros y terfyn amser.

Oes gwasanaeth bws?

Oes, mae gwasanaeth bws wennol yn teithio o Gaerfyrddin, sy’n stopio hefyd yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr a Dominos, Llanelli. 

Gallwch archebu eich tocyn bws here 

Ydych chi’n derbyn arian parod yn y stadiwm?

Fe fydd un til arian parod ym mhob ciosg, ond nid ydym yn derbyn yr hen bapurau £50 a £20.

Beth sy’n digwydd cyn y gêm?

Fe fyddwn ni’n cynnal gwyl rygbi IntroTeach cyn y gêm. Mae’r ysgolion canlynol yn cymryd rhan:

Fe fydd y timau canlynol yn cymryd rhan:

  • Ysgol Y Ddwylan
  • Bryn Community Primary School
  • Ysgol Yr Hendy
  • Golden Grove Primary School
  • Johnstown Primary School
  • Burry Port Community Primary School
  • Cleddau Reach VC Primary School
  • Spittal VC Primary School

Fe fydd Arena FSG ar gau ar ar gyfer y gêm.