Bydd y Scarlets yn croesawu nôl eu sêr rhyngwladol ar gyfer gêm gyfeillgar nos Wener yn erbyn Saracens ym Mharc y Scarlets (19:30).
Blair Murray, Ellis Mee, Eddie James, Sam Costelow, Ryan Elias, Joe Hawkins a Henry Thomas bydd yn gwneud eu hymddangosiadau cyntaf o’r ymgyrch wrth i ni gyfri i lawr at gêm agoriadol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Caerdydd o fewn wythnos.
Murray, Mee a Macs Page sydd yn cwblhau’r tri ôl, wrth i James cydweithio â Joe Roberts – a wnaeth groesi am ddwy cais yn erbyn Exeter – yng nghanol cae.
Costelow fydd yn ymddangos am y tro cyntaf ers gêm Ulster ym mis Ionawr a fydd yn bartner i Dane Blacker fel haneri.
Yn y rheng flaen, y dechreuad cyntaf i Corey Domachowski, sydd wedi’i enwi wrth ochr Elias a Gabe Hawley.
Will Evans a Harvey Cuckson sydd yn yr ail reng, wrth i Sam Lousi gael ei enwi ar yr ochr dywyll, Osian Williams – a fydd yn dathlu ei benblwydd yn 20 oed ar ddydd Gwener – yw’r wythwr ar y rhestr gyda’r capten Josh Macleod wedi’i enwi ar yr ochr agored.
Ar y fainc mae’r prop profiadol Henry Thomas, chwaraewyr newydd y Scarlets John McKee a Gareth Anscombe, yn ogystal â fewnwr y Llewod Gareth Davies.
Bydd eisteddle y De Castell Howell a’r Gogledd Owens ar agor am y gêm, sydd am ddim i deiliaid tocyn tymor.
Tocynnau ar gael YMA neu o’r swyddfa docynnau ar 01554 292939.
Tîm y Scarlets v Saracens (Dydd Gwener, Medi 17, 19:30)
15 Blair Murray; 14 Ellis Mee, 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Macs Page; 10 Sam Costelow, 9 Dane Blacker; 1 Corey Domachowski, 2 Ryan Elias, 3 Gabe Hawley, 4 Will Evans, 5 Harvey Cuckson, 6 Sam Lousi, 7 Josh Macleod (capt), 8 Osian Williams.
Eilyddion: John McKee, Josh Morse, Henry Thomas, Jac Price, Gabe Cahsay, Dom Kossuth, Joe Denman, Harri O’Connor, Sam O’Connor, Archie Hughes. Gareth Davies, Gareth Anscombe, Joe Hawkins, Ioan Nicholas, Ioan Jones.
