Mae cit cartref 2026-27 y Scarlets, a gynhyrchwyd gan y gwneuthurwr citiau VX3, wedi’i lansio heddiw.
Mae’r cit cartref mwyaf newydd yn hanes hir 150 mlynedd a mwy y Scarlets wedi’i ysbrydoli gan un o’r crysau cyntaf erioed a wisgwyd gan y clwb, yn y 1880au cynnar cyn i’r crys Scarlet gael ei fabwysiadu, ac yn gyfeiriad at y crys achlysurol arbennig o 2006.
I’r rhai ohonoch sydd yn rhy ifanc i gofio crys rhifyn arbennig 2006, yr ysbrydoliaeth yw’r crys chwarteri coch a siocled hanesyddol.
Mae dyluniad 2026-27 yn cynnwys chwarteri Scarlet dau-dôn gyda manylion trim glas tywyll ar y llewys yn ogystal ag arwyddair y clwb Yma o Hyd.
Mae Gavin Griffiths Group, Castell Howell, Cadog Homecare, CK Supermarkets, Dyfed Steels, Gravells, LBS, LHP Accountants, Lloyd & Gravell, Morgan Marine, Purus, TAD Builders a Vaughan Construction wedi adnewyddu eu cytundebau gyda’r Scarlets, gan gadarnhau eu hymrwymiad i’r clwb a’i uchelgeisiau ar y cae ac oddi arno, a byddant yn ymddangos ar dri chit chwarae’r clwb yn 2026-27.
Mae rhai o’r enwau cyfarwydd a gynrychiolodd y Scarlets ugain mlynedd yn ôl yn cynnwys y chwaraewr rhyngwladol a hyfforddwr presennol Iwerddon Simon Easterby, yr amryddawn Regan King, y maswr rhyngwladol Stephen Jones, y cyn-gapten a’r Llew Matthew Rees a phrif hyfforddwr y Scarlets eu hunain Dwayne Peel.
Deugain yn ôl, mwynhaodd y Scarlets dymor llwyddiannus gan orffen yn bedwerydd yn y Gynghrair Geltaidd yn ogystal â chyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Heineken ar ôl sicrhau buddugoliaethau ym mhob un o’r chwe gêm grŵp, gan gynnwys buddugoliaeth epig yn Toulouse ac yna buddugoliaeth gofiadwy yn rownd yr wyth olaf dros Munster ym Mharc y Strade.
Mae’r cit cartref ar gael nawr ar-lein ac yn y siop. Prynnwch nawr
Mae Julian Lewis Jones yn un o dalentau actio mwyaf adnabyddus Cymru, gyda chredydau sgrin yn cwmpasu Invictus, Justice League, House of the Dragon a The Wheel of Time. Ond lle bynnag y mae ei yrfa wedi’i arwain, Cymru fu ei gartref erioed.
Yn wreiddiol o Ynys Môn ac yn awr yn byw yn Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin, mae Julian yn siaradwr Cymraeg balch ac angerddol gyda chysylltiad dwfn ag iaith, diwylliant a chymunedau Gorllewin Cymru. Yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd S4C fel actor a chyflwynydd, mae ei gariad at dirwedd Cymru – a’i dyfroedd – hefyd wedi’i weld trwy’r gyfres bysgota boblogaidd Sgota.
Llais Cymreig nodedig â gwreiddiau’n gadarn yn y gorllewin, Julian sy’n darparu’r llais ar gyfer fideo lansio cit newydd y Scarlets – gan ddod â chymeriad, balchder a hwyl amlwg i’r stori.
Gwyliwch y fideo lansio yma
Bydd y cit oddi cartref yn cael ei lansio ddydd Gwener, Awst 21.
