Mae’r Prif Hyfforddwr Steve Tandy wedi cyhoeddi tîm Cymru i chwarae Seland Newydd yn Stadiwm Principality ym mhumed rownd o gemau Pencampwriaeth y Cenhedloedd, ddydd Sadwrn 14 Tachwedd, am 14.10.
Mae Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i’r pymtheg cychwynnol gurodd Japan o 28-21 y penwythnos diwethaf.
Yn y rheng ôl, bydd Taine Basham yn dechrau yn safle’r wythwr, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn 2024. Mae James Botham wedi’i enwi’n flaen-asgellwr ochr dywyll, tra bydd Jac Morgan yn parhau ar ochr agored y rheng ôl.
Mae Adam Beard wedi’i ddewis yn yr ail reng gyda Dafydd Jenkins. Dim ond un newid sydd ymhlith olwyr Cymru. Bydd Gabriel Hamer-Webb yn dechrau ar yr asgell chwith ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.
Ymhlith yr eilyddion, bydd Gareth Thomas a Taine Plumtree yn gobeithio camu o’r fainc i wneud eu hymddangosiadau cyntaf nhw ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd hefyd.
Dywedodd Steve Tandy: “Ry’n ni’n edrych ymlaen at yr her sydd o’n blaenau yn erbyn Seland Newydd. Roedd yn dda cael y fuddugoliaeth ddydd Sadwrn diwethaf, ond doedd rhai agweddau o’n perfformiad ddim cystal ag yr oedden ni wedi’i ddymuno’i gael. Mae’n rhaid inni godi ein gêm i lefel arall y penwythnos yma a bod yn fwy digyfaddawd yn ein chwarae. Mae’r Crysau Duon – un o dimau gorau’r byd – yn dod aton ni i Gaerdydd ac mae pawb o fewn y garfan yn benderfynol o wella’n perfformiad a rhoi popeth dros yr 80 munud cyfan.”
Dioddefodd Tomas Francis anaf i’w ben-glin wrth ymarfer yn ystod yr wythnos ac o’r herwydd bydd yn cael ei ryddhau o’r garfan. Mae Keiron Assiratti wedi cael ei alw i garfan Steve Tandy felly ar gyfer gweddill Pencampwriaeth y Cenhedloedd.
Tim Cymru
15 Blair Murray (Scarlets – 20 caps); 14 Louis Rees-Zammit (Bristol Bears | Bryste – 44 caps), 13 Eddie James (Scarlets – 12 caps), 12 Max Llewellyn (Gloucester Rugby | Caerloyw – 14 caps), 11 Gabriel Hamer-Webb (Leicester Tigers | Caerlŷr – 1 cap); 10 Sam Costelow (Scarlets – 23 caps), 9 Tomos Williams (Saracens | Saraseniaid – 76 caps); 1 Nicky Smith (Sale Sharks – 67 caps), 2 Dewi Lake (Gloucester Rugby | Caerloyw – 35 caps) Captain | Capten, 3 Archie Griffin (Bath Rugby | Caerfaddon – 17 caps), 4 Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs | Caerwysg – 32 caps), 5 Adam Beard (Montpellier – 68 caps), 6 James Botham (Cardiff Rugby | Caerdydd – 25 caps), 7 Jac Morgan (Gloucester Rugby | Caerloyw – 28 caps), 8 Taine Basham (Cardiff Rugby | Caerdydd – 17 caps)
Replacements: 16 Ryan Elias (Scarlets – 52 caps), 17 Gareth Thomas (Ospreys | Gweilch – 44 caps), 18 Dillon Lewis (Dragons | Dreigiau – 60 caps), 19 Ben Carter (Dragons | Dreigiau – 22 caps), 20 Taine Plumtree (Scarlets – 15 caps), 21 Reuben Morgan-Williams (Ospreys | Gweilch – 3 caps), 22 Dan Edwards (Ospreys | Gweilch – 14 caps). 23 Louie Hennessey (Bath Rugby | Caerfaddon – 1 cap)
