Gall Bwrdd y Scarlets gadarnhau bod y clwb wedi sicrhau buddsoddiad sylweddol pellach ar
gyfer sefydlogrwydd y clwb a’r rhanbarth yn y dyfodol.
Mae’r buddsoddiad hwn yn bleidlais bwysig o hyder yn y Scarlets, yn Llanelli, cryfder
parhaus ein treftadaeth rygbi ac yn nyfodol rygbi proffesiynol yn y rhanbarth a’i gysylltiadau â
chwaraeon, cymuned a diwylliant yng ngorllewin Cymru.
Mae blaenoriaeth a ffocws y clwb yn parhau i fod ar ddiogelu ei ddyfodol, darparu
sefydlogrwydd i chwaraewyr, staff, rhanddeiliaid a chefnogwyr, a chreu’r amser sydd ei
angen i ystyried cam nesaf datblygiad rygbi proffesiynol yng Nghymru yn briodol ac yn
gyfrifol.
Daw’r buddsoddiad ychwanegol o fewn ein grŵp ariannu presennol sydd wedi ymrwymo i
ddyfodol y clwb ac sy’n deall yn ddwys rygbi’r Scarlets a’i bwysigrwydd i rygbi Cymru a
gorllewin Cymru.
Hoffem ddiolch i’n cefnogwyr, staff, chwaraewyr, partneriaid a chymuned ehangach y
Scarlets am eu teyrngarwch a’u hamynedd yn ystod cyfnod anodd. Nid yw eu cred a’u
cefnogaeth i’n clwb erioed wedi pylu. Nid yw ein cred ni fel Bwrdd y Scarlets chwaith.
