Dathlu’n Cymreictod yw thema’r gêm nesaf ym Mharc y Scarlets

Rob LloydNewyddion

Gyda Diwrnod Santes Dwynwen ar y gorwel, rydyn ni’n paratoi i ddathlu ein Cymreictod wythnos nesaf pan fyddwn ni’n croesawu Ulster i Barc y Scarlets.

Os ydych yn ymweld â Pharc y Scarlets yn gyson, ac yn mynychu gemau’n aml, byddwch chi siwr o fod wedi sylwi ein bod ni’n falch iawn o’n Cymreictod yma ac yn ei ddefnyddio yn feunyddiol.

Ond, ar ddydd Sadwrn 24ain Ionawr byddwn ni’n cynnal gŵyl o weithgareddau, cerddoriaeth a bwyd Cymreig a Chymraeg i ddathlu ein hunaniaeth, ein Cymreictod a’n hanes.

Byddwn ni’n cydweithio â Menter Cwm Gwendraeth Elli i sicrhau diwrnod llawn hwyl i’r teulu oll.

Fe fydd tri o fandiau ifanc y sîc gerddoriaeth Gymraeg yn perfformio ym Mar Tanner Banc. Dewch am ddiwrnod arbennig o ddathlu, a mwynhewch wrando ar Y Goleuni, Merched Becca, ac Alys a’t Tri Gwr Doeth.

Mae tocynnau Scarlets v Ulster, Sadwrn 24ain Ionawr cic gyntaf 15:00, ar werth yma