Dathlwch eich achlysur arbennig ym Mharc y Scarlets

Rob LloydNewyddion

Wrthi’n cynllunio dathliad penblwydd, ymddeoliad neu achlysur arbennig? Ydych chi’n chwilio am ffordd arbennig i ddod â’ch ffrindiau ynghyd am y cyfarfod unwaith-y-flwyddyn?

Mae gyda ni’n peth perffaith ar eich cyfer!

Mae’r Cornel Cymdeithasu ym Mharc y Scarlets yn berffaith ar gyfer eich achlysur arbennig!

Mae diwrnodau gêm ym Mharc y Scarlets yn ddigwyddiadau arbennig yn barod, ond wrth ymuno â ni yn y Cornel Cymdeithasu chi’n siwr o fwynhau profiad heb ei ail gyda’ch ffrindiau, teulu neu chydweithwyr.

Am £100 y person* fe fydd gyda chi mynediad arbennig i’ch Cornel Cymdeithasu personol ar y trydydd llawr yn Eisteddle De Castell Howell.

Mae pecyn Cornel Cymdeithasu yn cynnwys;

  • Pryd o fwyd un cwrs
  • Bar am ddim am ddwy awr
  • 10 sedd tu allan i’r blwch a dau sedd i wylio’r gêm wrth y ffenstr
  • Aelod o staff i’ch cynorthwyo trwy gydol y gêm
  • Mynediad i’r blwch lletygarwch cyn ac ar ôl y gêm

Am wybodaeth bellach neu i wirio argaeledd gêm penodol, cysylltwch nawr ar 01554 783906 neu ebostiwch [email protected]