Dathlwch Sul y Tadau mewn steil ym Mharc y Scarlets

Rob LloydNewyddion

Gwnewch Sul y Tadau yn ddiwrnod i’w chofio gan fwynhau cinio dydd Sul arbennig ym Mharc y Scarlets ddydd Sul, Mehefin 21.

Mwynhewch pryd dau neu tri chwrs mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar yn Lolfa Strade Lounge.

Cewch ddewis o:

  • Pryd 2 gwrs am £25
  • Pryd 3 chwrs am £30

I wneud yr achlysur hyd yn oed yn fwy arbennig, mae plant dan 15 yn bwyta am ddim.

Roedd ein dathliad Sul y Mamau yn llwyddiant ysgubol ychydig wythnosa’n ôl ac mae disgwyl i ddathliad Sul y Tadau werthu’n gyflym hefyd, felly gwwnewch yn siwr eich bod chi’n archebu’ch lle yn gynnar.

I archebu’ch lle, ebostiwch [email protected] neu ffoniwch 01554 783900.