Dewch â ffrind gyda chi i Scarlets v Bulls am £5

Rob LloydNewyddion

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Vodacom Bulls i barc y Scarlets ddydd Sadwrn 25 Ebrill ar gyfer ein gêm gartref olaf ond un tymor 2025-26.

Gyda’r tymor yn gyflym ddirwyn i ben, ry’n ni am eich cynorthwyo chi i ail gysylltu gyda’ch ffrindiau rygbi sydd efallai heb fod i gêm yn y Parc ers cyfnod.

Fel diolch i ddalwyr tocyn tymor am eich cefnogaeth parhaol, ry’n ni’n falch iawn o gadarnhau eich bod chi’n gallu prynu hyd at BEDWAR tocyn ychwanegol ar gyfer gêm Scarlets v Bulls, Sadwrn 25 Ebrill, cic gyntaf 19:45 am £5 yr un.

Dewch â’ch ffrdiniau a theulu ynghyd a mwynhewch noson arbennig gyda ni yn y Parc.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar tickets.scarlets.wales i brynu eich tocyn Dewch a Ffrind am £5 neu cysylltwch â’r swyddfa docynnau ar 01554 29 29 39. 

Termau’r cynnig

  1. Nid yw’r cynnig yn ddilys ar docynnau plant
  2. Nid yw’n bosib i ni gadarnhau y bydd yn bosib i chi brynu tocyn ger eich sedd tocyn tymor