Fe fydd y Scarlets yn dychwelyd i gystadleuaeth Ewrop nos Sadwrn 10fed Ionawr gan wybod bod cyrraedd rowndiau nesaf Cwpan Pencampwyr Investec yn dal i fod o fewn gafael wrth iddynt groesawu Section Paloise i Barc y Scarlets.
Gyda phopeth i’w wneud o hyd yng ngrwp 4, bydd tîm Dwayne Peel yn targedu buddugoliaeth gartref hanfodol yn erbyn yr ymwelwyr o Pau.
Mae buddugoliaethau cadarn ar dir cartref yn hanfodol bwysig yn y gystadleuaeth ac fe fydd y gêm hon yn allweddol yn yr ymgyrch.
Mae’r gêm yn rhan o thema arbennig ‘Diolch i’r Gwasanaethau’, gan gydnabod a dathlu ymroddiad y Lluoedd Arfog a’r gwasanaethau brys. Anogir cefnogwyr i gyrraedd yn gynnar a mwynhau;r awyrgylch yn Arena Cefnogwyr FSG, a fydd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol drwy gydol y prynhawn.
Bydd cynrychiolwyr o’r Fyddin, y Llynges a’r Llu Awyr yn bresennol, ochr yn ochr â phartneriaid allweddol y gwasanaethau brys gan gynnwys Heddlu Dyfed Powys, Ambiwlans Awyr Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Bydd yr arena yn rhoi cyfle i gefnogwyr o bob oed ymgysylltu â phersonel y gwasanaethau, dysgu mwy am eu gwaith yn y gymuned, a mwynhau profiad diwrnod gêm sy’n mynd yn bell tu hwnt i rygbi.
Mae thema ‘Diolch i’r Gwasanaethau’ yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Scarlets i gydnabod y rhai sy’n gwasanaethu ac yn amddiffyn cymunedau ledled gorllewin Cymru a thu hwnt.
Ar y cae, prin y gallai’r her fod yn fwy. Bydd canlyniad cadarnhaol yn cadw’r Scarlets yn y ras i gyrraedd rowndiau nesaf y gystadleuaeth.
Gyda rygbi Ewropeaidd yn dychwelyd i Lanelli o dan y llifoleuadau a rhaglen lawn o weithgareddau oddi ar y cae, mae’n addo bod yn noson arbennig.
Anogir cefnogwyr i fod yn rhan o’r gwethgarwch, i godi’r to a chefnogi’r tîm. Prynnwch eich tocynnau yma
