Mae’r chwaraewyr canlynol wedi eu rhyddhau i gynrychioli eu clybiau yn Rownd 12 o’r Bencampwriaeth Rygbi Unedig y penwythnos hwn:
• Liam Belcher (Rygbi Caerdydd)
• Mason Grady (Rygbi Caerdydd)
• Ben Thomas (Rygbi Caerdydd)
• Harri Deaves (Gweilch)
• Reuben Morgan-Williams (Gweilch)
• Gareth Thomas (Gweilch)
• Owen Watkin (Gweilch)
• Josh Macleod (Scarlets)
• Tom Rogers (Scarlets)
Byddant yn ail-ymuno gyda charfan Cymru ddydd Sul y 1af o Fawrth i barhau gyda’r paratoadau i wynebu Iwerddon ym mhedwaredd rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2026 (Gwener 6 Mawrth, 8.10pm yn fyw ar S4C ac ITV).
Mae ail reng y Gweilch, Rhys Davies wedi ei ryddhau o’r garfan wedi iddo ddioddef anaf i’w bigwrn wrth ymarfer yr wythnos ddiwethaf.
Bydd unrhyw newyddion am ychwanegiadau i’r garfan yn cael eu cyhoeddi yn dilyn gemau’r penwythnos yma.
