Diwrnod y Menywod wrth i’r Scarlets groesawu Zebre Parma

Rob LloydNewyddion

Mae’r Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi dathliad Diwrnod y Menywod pan fyddwn ni’n croesawu Zebre Parma i Barc y Scarlets ym Mhencampwriaeth URC BKT.

Gwahoddir cefnogwyr i wisgo i greu argraff ar ddiwrnod gêm cofiadwy sy’n cyfuno rygbi a dathliad arbennig. Bydd gwobr am y Wisg Orau yn cael ei ddyfarnu i un gwestai arbennig yn y lolfeydd lletygarwch, felly dewch yn eich hoff wisg a gwnewch yn ddiwrnod i’w gofio.

Gwyl Rygbi Merched Cyn y Gêm

Cyn y gic gyntaf fe fydd Pentref Cefnogwyr Arena FSG dan ei sang gyda thimau merrched y rhanbarth yn cymryd rhan mewn gwyl arbennig.

I gofrestsru eich tîm, ebostiwch [email protected]

Profiad diwrnod gêm a gweithgareddau arbennig

Gall cefnogwyr sy’n mynychu Diwrnod y Menywod fwynhau amrywiaeth o weithgareddau a chynigion arbennig, gan gynnwys:

  • Bwth lluniau ym Mhentref Cefnogwyr Arena FSG – perffaith ar gyfer dal yr achlysur gyda ffrindiau.
  • Bwth lluniau pwrpasol yn Lolfa Quinnell Cadog Homecare ar gyfer gwesteion lletygarwch
  • Adloniant i ategu’r gweithgaredd ar y cae
  • Bar Bwrlwm yn y Tanner Banc

P’un a ydych chi’n gefnogwr gydol oes i’r Scarlets, yn newydd i’r gêm, neu’n chwilio am ddiwrnod gwych allan, mae Diwrnod y Merched yn addo rhywbeth i bawb.

Ymunwch â ni ym Mharc y Scarlets wrth i ni ddathlu rygbi, steil a chymuned pan fydd y Scarlets yn herio Zebre Parma.

Mae tocynnau gêm ar gael yma 

Gallwch brynu pecynnau lletygarwch yma neu cysylltwch â [email protected] am wybodaeth bellach.

Diwrnod y Menywod, Scarlets v Zebre Parma, Gwener 20 Mawrth CG 19:45