Eddie James yn ymestyn ei gytundeb i aros gyda’r Scarlets

Rob LloydNewyddion

Mae canolwr rhyngwladol Cymru Eddie James wedi sicrhau ei ddyfodol gyda’r Scarlets, gan lofnodi cytundeb newydd a fydd yn cadw un o dalentau ifanc mwyaf cyffrous rygbi Cymru ym Mharc y Scarlets.

Mae’r cytundeb newydd yn cynrychioli datganiad arwyddocaol i’r clwb o orllewin Cymru wrth iddo barhau i fuddsoddi mewn carfan sy’n canolbwyntio ar gystadlu’n galed ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT a Chwpan Her EPCR.

Mae James yn enghraifft ddisglair o ddatblygiad o fewn rhanbarth y Scarlets wedi datblygu trwy clwb Cwins Caerfyrddin, i’r llwyfan rhyngwladol.

O Gaerfyrddin, chwaraeodd James ei rygbi iau i Gwins Caerfyrddin cyn serennu i Goleg Sir Gâr a dod trwy rengoedd yr Academi i chwarae i dîm dan 18 a dan 20 Cymru ac yna sefydlu ei hun yn nhîm y Scarlets.

Yn sefyll yn 6 troedfedd 4 modfedd ac yn pwyso 104kg, mae James yn dod â phwynt o wahaniaeth i ganol cae’r Scarlets. Mae’n un o’r cludwyr pêl mwyaf ffrwydrol a deinamig yn rygbi Cymru, gyda dwylo llyfn, gêm amddiffynnol gref a’r gallu i chwarae’n gyflym. Mae wedi dod yn un o weithredwyr canol cae blaenllaw Cymru, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn gêm Brawf yn erbyn y Springboks yn 2024 ac mae wedi mynd ymlaen i ennill 11 cap dros ei wlad.

Ond yn 24 oed yn unig, mae James eisoes wedi chwarae 53 gêm mewn crys Scarlets, gan wneud argraff ar unwaith gyda chais ar ei ymddangosiad cyntaf i URC yn erbyn Caeredin ac mae’n cael ei ystyried yn rhan bwysig o’r tîm y mae’r clwb yn ei adeiladu ar gyfer y tymhorau nesaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Scarlets, Nigel Davies: “Mae cadw Eddie ym Mharc y Scarlets yn arwydd arwyddocaol iawn i’n clwb ac rydym wrth ein bodd y bydd yn parhau â’i daith rygbi gyda ni.

“Mae cael chwaraewyr fel Eddie wrth wraidd yr hyn rydym yn ei adeiladu yr un mor bwysig â chwaraewyr newydd sy’n dod i’r garfan. Rydym yn falch o’n hethos o ddatblygu ein chwaraewyr ein hunain ac rydym am roi amgylchedd i’n chwaraewyr ifanc Cymru lle maent yn gwybod y gallant gyflawni eu huchelgeisiau yng nghrys Scarlets.

“Mae Eddie wedi dod trwy’n system ni, wedi cynrychioli Cymru trwy’r graddau oedran ac mae bellach yn chwaraewr rhyngwladol sefydledig. Dyna daith rydyn ni eisiau i chwaraewyr ifanc eraill ei hadlewyrchu ar draws ein rhanbarth a gallu ei gweld a chredu ynddi.

“Y peth cyffrous gydag Eddie yw bod cymaint mwy i ddod ganddo o hyd. Dim ond 24 oed yw e ac mae ganddo rhinweddau corfforol rhagorol. Mae’n fawr, yn bwerus ac yn ffrwydrol, ond mae ganddo hefyd y set sgiliau i chwarae’r math o rygbi rydyn ni’n ei adeiladu yma.

“Mae Eddie eisoes wedi cyflawni llawer, ond dylai ei rygbi gorau fod o’i flaen o hyd, ac mae’n wych ei fod yn gweld y Scarlets fel y lle i’w gyflawni.

“Rydym yn adeiladu o amgylch grwp craidd cryf o chwaraewyr a ddatblygwyd gan y Scarlets, gan ychwanegu ansawdd a phrofiad o’u cwmpas a chreu cystadleuaeth wirioneddol ledled y grŵp.”

Dywedodd Eddie James: “Fel un sydd wedi tyfu lan yn y rhanbarth a chefnogi’r Scarlets fel crwt ifanc, mae’r clwb yn golygu lot i fi, mae’n gartref i mi ac felly roedd yn benderfyniad hawdd ymestyn fy nghytundeb ac rwy’n falch iawn o aros ym Mharc y Scarlets.

“Mae tymor cyffrous o’n blaenau. Mae’r chwaraewyr newydd wedi ychwanegu at y dalent sydd gennym eisoes ac mae uchelgais glir ynghylch ble rydym am fynd fel grŵp. Mae mwy o gystadleuaeth a bydd hynny’n gwthio safonau ac yn ein gwneud yn dîm gwell.

“Rwy’n edrych ymlaen at fod yn ôl gyda’r garfan wythnos nesaf, rhoi fy ngorau yn y sesiynau ymarfer ac adeiladu tuag at gêm agoriadol enfawr URC y tymor yn erbyn Caerdydd yma yn y Parc. Byddai’n wych cael torf fawr i gychwyn y bennod newydd.”

James yw’r chwaraewr diweddaraf i lofnodi cytundeb newydd cyn ymgyrch 2026-27, gan ychwanegu at restr sy’n cynnwys Fletcher Anderson, Josh Macleod, Henry Thomas, Gareth Davies, Dan Davis, Sam Lousi, Harri O’Connor, Jac Davies, Will Evans, Carwyn Leggatt-Jones a Gabe Hawley.

Mae’r clwb hefyd wedi ychwanegu 10 chwaraewr newydd i’r garfan – y maswr Gareth Anscombe, y propiau Chris Apoua a Corey Domachowski, y clo Harvey Cuckson, Alex Groves a Tom Allen, y bachwyr John McKee a George Roberts, y cefnwr Isaac Murray-Macgregor a Cullen Grace sydd wedi cynrychioli’r Crysau Duon.

Mae tocynnau ar gyfer y gêm a thocynnau tymor ar gael yn tickets.scarlets.wales