Fletcher Anderson a Gareth Davies sy’n dychwelyd fel dau allan o saith newid i dîm cychwynnol y Scarlets ar gyfer gêm agoriadol Cwpan Her EPCR yn erbyn Newcastle Red Bulls ym Mharc y Scarlets (20:00; S4C).
Yn chwilio i adeiladu ar fuddugoliaeth penwythnos diwethaf yn erbyn Benetton, mae’r Scarlets wedi enwi ochr cryf i lansio eu hymgyrch wrth iddynt bwriadu i greu argraff yn gynnar yn y gystadleuaeth.
Bydd y cydweithrediad rhwng y haneri Davies a Sam Costelow yn parhau yn dilyn perfformiad da yn yr ail hanner penwythnos diwethaf, wrth i’r chwaraewyr rhyngwladol Johnny Williams a Joe Roberts cael eu henwi yng nghanol cae.
Y tri ôl o benwythnos diwethaf sy’n parhau yn enw Blair Murray, Ellis Mee a Macs Page.
Bydd Page yn rhedeg ymlaen i gae Parc y Scarlets am ei 50fed ymddangosiad yn ond 21 oed. Enillodd ei gap cyntaf i’r clwb yn 2023 yn erbyn Saracens, ac ers hynny wedi parhau i serennu fel rhan allweddol o dîm y Scarlets.

Mae dau newid i weld yn y rheng flaen. Y bachwr John McKee sydd yn cychwyn am y tro cyntaf i’r Scarlets wrth ochr Kemsley Mathias a Harri O’Connor, sy’n dechrau yn lle Henry Thomas.
Yn yr ail reng, Harvey Cuckson sy’n dod i mewn yn lle Will Evans, wrth i Anderson – un arall a wnaeth greu argraff o’r fainc yn erbyn Benetton – cael ei enwi fel wythwr am y tro cyntaf tymor yma.
Gyda sawl chwaraewr rhyngwladol wedi enwi ar y fainc hefyd yn ffurf Taine Plumtree – sydd wedi gwella o lawdriniaeth ar ei ysgwydd – Ryan Elias, Joe Hawkins a Eddie James.
Bydd y prop pen tynn Gabe Hawley hefyd ar gael wrth i’r Scarlets paratoi ar gyfer gêm cystadleuol Ewropeaidd.
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Scarlets Nigel Davies: “Roedd penwythnos diwethaf yn hollbwysig i ni, nawr mae’n rhaid i ni gadw’r momentwm i fynd yn erbyn Newcastle, tîm sydd gyda llawer o dalent ac sydd yn barod wedi dangos eu cryfderau yn y PREM.
“I ni wedi sôn ar sawl achlysur y tymor hwn am y dyfnder i ni’n ceisio datblygu yma ac i ni wedi llwyddo i ddod mewn â’r ansawdd hynny wrth i ni baratoi ar gyfer Cwpan Her EPCR.
“Mae’n grwp heriol ond i ni’n ymwybodol o’r pwysigrwydd o gychwyn yn gryf yn y gystadleuaeth. Fe wnaeth ein cefnogwyr chwarae rhan yn ein gwthio dros y llinell yn erbyn Benetton a mi fydd hi’n wych i gael gymaint ohonyn nhw yma eto ar ddydd Sadwrn.”
Tîm y Scarlets yn erbyn Newcastle Red Bulls (Parc y Scarlets, 20:00; S4C)
15 Blair Murray; 14 Ellis Mee, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Macs Page; 10 Sam Costelow, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 John McKee, 3 Harri O’Connor, 4 Harvey Cuckson, 5 Alex Groves, 6 Sam Lousi, 7 Josh Macleod (capt), 8 Fletcher Anderson.
Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Sam O’Connor, 18 Gabe Hawley, 19 Taine Plumtree, 20 Dan Davis, 21 Dane Blacker, 22 Joe Hawkins, 23 Eddie James.
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch
Archer Holz, Corey Domachowski, Harry Thomas, Isaac Young, Elis Price.
