Bydd Fletcher Anderson yn arwain y Scarlets am y tro cyntaf ar nos Wener yng ngêm y Bencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn Connacht yn Galway (19:45; Premier Sports).
Mae’r wythwr 23 oed yn cymryd yr awennau oddi wrth capten y clwb Josh Macleod, sydd yn parhau gyda charfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer ornest olaf y Chwe Gwlad yn erbyn yr Eidal.
Anderson sydd yn arwain ochr sy’n dangos pedair newid a thair newid safle o’r tîm a deithiwyd i Gaeredin ar gyfer rownd 12.
Gyda Tom Rogers ddim ar gael, Jac Davies sydd yn symud i’r asgell dde a Ioan Jones – gwr a wnaeth serennu yn yr ail hanner ym mhrifddinas yr Alban – sydd yn dechrau am y tro cyntaf yn y bencampwriaeth i’r clwb yn safle’r cefnwr.
Mae Johnny Williams wedi gwella o anaf i bartneri â Joe Roberts, sy’n symud i gryd rhif 13, a Macs Page yn symud i’r asgell chwith.
Maswr D20 Cymru Carwyn Leggatt-Jones sydd yn parhau yng nghrys rhif 10 ac yn cydweithio â Gareth Davies.
Yn y rheng flaen, mae Kemsley Mathias, Marnus van der Merwe, Henry Thomas, Sam Lousi a Jake Ball yn ddinewid.
Yn y rheng ôl, mae Jarrod Taylor yn dod i mewn ar yr ochr agored yn lle Macleod.
Ar y fainc, gyda Alec Hepburn wedi bod yn rhan o garfan yr Alban dros yr wythnos diwethaf, mae Sam O’Connor wedi’i enwi fel eilydd o brop. Ei frawd hynaf Harri O’Connor, Harry Thomas, Jac Price a Dan Davis sydd yn cwblhau’r fainc i’r blaenwyr.
Archie Hughes, Gabe McDonald a Tomi Lewis sydd ar gael i’r olwyr.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro Nigel Davies: “Wrth ystyried bod sawl un o’n chwaraewyr gyda charfan Cymru ar hyn o bryd, rwy’n hapus iawn gyda’r ochr i ni wedi dewis am y penwythnos. Maent yn dîm cryf a chystadleuol gyda sawl chwaraewr cyffrous ac mae’r bois yma’n barod i wynebu’r her.
“Athroniaeth Connacht yw i weithio’n galetach nag unrhyw dîm arall, maent yn gorfforol iawn, ac wedi llwyddo cael sawl canlyniad da yn ddiweddar. Byddwn yn chwilio i gymryd ein gêm i mewn i’r lefel nesaf a gwynebu’r her yn gadarn.
“Roedd diffyg corfforoldeb ar ein rhan ni yng Nghaeredin, a rwy’n disgwyl i weld tîm deinameg a chorfforol ar y penwythnos.”
Tîm y Scarlets i wynebu Connacht Rugby ar ddydd Gwener, Mawrth 13 (19:45; Premier Sports)
15 Ioan Jones; 14 Jac Davies, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams, 11 Macs Page; 10 Carwyn Leggatt-Jones, 9 Gareth Davies; 1 Kemsley Mathias, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Sam Lousi, 5 Jake Ball, 6 Max Douglas, 7 Jarrod Taylor, 8 Fletcher Anderson (capt).
Eilyddion: 16 Harry Thomas, 17 Sam O’Connor, 18 Harri O’Connor, 19 Jac Price, 20 Dan Davis, 21 Archie Hughes, 22 Gabe McDonald, 23 Tomi Lewis.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Taine Plumtree, Ioan Nicholas, Archer Holz, Josh Morse, Will Evans, Elis Price, Isaac Young, Callum Woolley, Iori Badham.
Ddim ar gael oherwydd dyletswydd rhyngwladol
Josh Macleod, Tom Rogers, Sam Costelow, Blair Murray, Ellis Mee, Joe Hawkins, Eddie James, Ryan Elias, Jac Pritchard, Dom Kossuth, Osian Willams.
