Gareth Davies yn dychlweyd ar gyfer tymor 19

Rob LloydNewyddion

Mae Gareth Davies yn ymhlith y chwaraewyr sydd yn ôl ym Mharc y Scarlets ar gyfer tymor newydd o rygbi, ei bedwaredd tymor ar bymtheg.

Mae mewnwr y Llewod wedi mwynhau gyrfa arbennig yng ngorllewin Cymru, wedi chwarae 282 o gemau ac ef yw’r Cymro i sgori’r nifer mwyaf o geisiau yn hanes Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.

Chwaraeodd Davies ei gêm gyntaf i’r Scarlets ym mis Mawrth 2009, ac fe fydd yn dathlu ei benblwydd yn 36 mlwydd oed ym mis Awst, ond does dim son amdano’n arafu wrth iddo gymryd rhan mewn sesiwn ymarfer gyda rhai o chwaraewyr ifanc y rhanbarth, rhai ohonynt 18 mlynedd yn iau nag ef.

Ymhlith y rheini oedd yn ymarfer ddydd Llun oedd y wynebau newydd Isaac Murray-Macgregor, Corey Domachowski, George Roberts, Alex Groves ac Hyfforddwr Arweiniol y Blaenwyr Aaron Dundon. Fe fydd eraill yn ymuno dros yr wythnosau nesaf. Fe fydd Cullen Grace yn cyrraedd ym mis Hydref.

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau pellach am sesiynau ymarfer yn ystod yr wythnos, gan gynnwys lluniau o’r cit ymarfer newydd gan VX3.

Fe fydd y Scarlets yn dechrau tymor 2026-27 Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT yn erbyn Caerdydd ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn 26 Medi.

Os hoffech fod yn rhan o’r siwrne, prynnwch eich Tocyn Tymor YMA