Fe fydd y Scarlets yn dechrau ymgyrch 2026-27 Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT gyda gêm ddarbi fawr yn erbyn Caerdydd o dan llifoleuadau nos Sadwrn.
Bydd hi’n gyfle i ail gynnau’r tân rhwng y ddau dîm ar ôl i’r ddau dîm ennill gêm yr un y tymor yma – y Scarlets yn ennill ym Mharc yr Arfau ym mis Rhagfyr a Chaerdydd yn dwyn y fuddugoliaeth yn Llanelli mis diwethaf.
Gyda thymor arferol URC yn dirwyn i ben penwythnos diwethaf, mae’r restr o gemau ar gyfer tymor nesaf yn cael eu cyhoeddi am ser cinio ddydd Mawrth (12pm).
Bydd y Scarlets yn gobeithio dechrau’r tymor o flaen torf arbennig yn y Parc.
Mae prisiau cynnar tocynnau tymor ar gael ar hyn o bryd felly ymunwch ar gyfer siwrne arbennig!
Tocynnau tymor YMA
BKT URC Rownd 1
Scarlets v Caerdydd
Parc y Scarlets, Llanelli, CG 19.45
(Yn fyw: S4C, Premier Sports)
