Gwasanaeth bws ychwanegol ar gyfer Scarlets v Gweilch

Rob LloydNewyddion

Mae’r gêm ddarbi fawr ar Wyl San Steffan yn addo bod yn achlysur arbennig ym Mharc y Scarlets gyda lletygarwch wedi gwerthu allan yn barod, a thocynnau arferol yn brin yn Eisteddle De Castell Howell ac Eisteddle Gogledd Owens Group.

Rydym yn falch iawn o gadarnhau bod yna wasanaeth bws ychwanegol ar gael o Lanedilo, yn ogystal â’r bws arferol o Gaerfyrddin.

Fe fydd y bws o Gaerfyrddin yn galw yng Nghydweli, Porth Tywyn, Coleg Sir Gâr (Campws Graig), a Dominos Llanelli.

Fe fydd y bws ychwanegol o Landilo yn galw yn Safle Bws Stryd y Brenin Llandeilo, Garej Esso Cross Hands, a Safle Bws Heol Bryngwili Yr Hendy.

I archebu tocyn teithio ar gyfer y wasanaeth, cliciwch yma

Mae amseroedd y gwasanaethau fel a ganlyn;