Gwersyll rygbi hanner tymor y Scarlets – archebwch nawr!

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Mae Sefydliad Scarlets yn y Gymuned yn cynnal gwersyll rygbi dros wyliau hanner tymor i blant rhwng 6 ac 11 mlwydd oed!

Fe fydd y gwersyll, a fydd yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets, yn rhoi cyfle i chwaraewyr rygbi ifanc ddatblygu eu sgiliau a chwarae ochr yn ochr â rhai o sêr y rhanbarth.

Gwersyll Rygbi 1 Diwrnod – Cymysg

Mae’r gwersyll rygbi un diwrnod yn un o’r digwyddiadau mwyaf poblogaidd yn ein calendr ac mae’n ôl ar gyfer hanner tymor yr Hydref!

  • Mercher 29 ain Hydref (10:00-14:00)
  • Bechgyn a merched rhwng 6 ac 11 mlwydd oed (hyd at blwyddyn ysgol 6)
  • Bechgyn a merched 6-11 mlwydd oed (hyd at blwyddyn 6)
  • Crys-t y Scarlets
  • Taleb tocyn gêm
  • Cyfle i gyfarfod rhai o’r chwaraewyr

I archebu’ch lle cliciwch yma