Gwersylloedd Haf y Scarlets 2026 ar werth nawr

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Mae’r gwyliau haf ar y gorwel ac ry’n ni’n falch iawn cyhoeddi bod dyddiadau a lleoliadau Gwersylloedd Rygbi Haf y Scarlets ar werth nawr.

Mae mwy o ddyddiadau a lleoliadau ar gael nag erioed o’r blaen, gyda dim llai na naw lleoliad ar draws y rhanbarth.

Mae’r gwersylloedd, sy’n cael eu rhedeg gan Sefydliad Gymunedol y Scarlets, yn gyfle gwych i wella sgiliau rygbi a gwneud ffrindiau newydd.

Mae’r gwersylloedd yn agored i fechgyn a merched 6-11 mlwydd oed (blwyddyn ysgol 2 i 6), ar wahan i’r gwersyll yn Aberystwyth sy’n agored i ferched 6-16 oed yn unig.

Pris gwersyll yw £25 y sesiwn ac mae’n cynnwys y canlynol:

  • Hyfforddiant gan hyfforddwyr profiadol Sefydliad Gymunedol y Scarlets
  • Crys-t Scarlets
  • Taleb tocyn gêm ar gyfer gêm gartref yn 2026-27

Fe fydd angen i bob plentyn ddod a lluniaeth ysgafn, diod ac esgidiau addas.

Mae dyddiadau a lleoliadau’r gwersylloedd fel a ganlyn;

  • Llun 27 Gorffennaf, Clwb Rygbi Arberth, 10am – 1pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOFK
  • Llun 27 Gorffennaf, Clwb Rygbi Quins Caerfyrddin, Abergwili, 3pm – 6pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOFM
  • Llun 3 Awst, Clwb Rygbi Crymych, 4.30pm – 7.30pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOFP
  • Mercher 5 Awst, Clwb Rygbi Aberteifi, 4.30pm – 7.00pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOFV
  • Mercher 12 Awst, Parc y Scarlets, 10am – 1pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOFZ
  • Thursday, August 13, Fishguard & Goodwick RFC, 10am – 1pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOGH
  • Iau 13 Awst, Clwb Rygbi San Clêr, 3pm – 6pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOGJ
  • Gwener 21 Awst, Clwb Rygbi Aberystwyth, 10am – 1pm
    • Merched yn unig, 6-16 mlwydd oed
    • https://www.trybooking.com/uk/GOGK
  • Mercher 26 Awst, Clwb Rygbi Rhydaman, 10am – 1pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOGL