Fe fydd Scarlets yn y Gymuned yn cynnal gwersylloedd rygbi i blant chwech i 11 mlwydd oed dros wyliau’r Pasg.
Fe fydd y gwersyll cyntaf yn Arena FSG Parc y Scarlets (Ebrill 1) ac yna fe fydd y tîm cymunedol yn crwydro’r rhanbarth gan gynnal gwersyll yng nghlwb rygbi Aberystwyth a chlwb rygbi Nantgaredig ar yr 8 Mawrth.
Mae’r gwersylloedd yn rhoi cyfle i chwaraewyr ifanc i ddatblygu eu sgiliau tra’n gwneud ffrindiau newydd hefyd.
Os yw’ch plentyn yn cydio mewn pêl rygbi am y tro cyntaf neu’n breuddwydio am gynrychioli’r Scarlets ym Mharc y Scarlets, mae’r gwersylloedd yn le arbennig i ddechrau.
Archebwch le cyn i’r gwersylloedd lenwi.
Gwersyll Rygbi Un Diwrnod – Parc y Scarlets
- Mercher, Ebril 1 (10:00-14:00)
- Bechgyn a merched rhwng 6 ac 11 mlwydd oed (hyd at blwyddyn ysgol 6)
- £30 y plentyn
- Crys-t y Scarlets
- Taleb tocyn gêm
- Cyfle i gyfarfod rhai o’r chwaraewyr
I archebu lle, cliciwch YMA

Gwersyll Rygbi Un Diwrnod – Nantgaredig RFC & Aberystwyth RFC
Nantgaredig RFC
- Mercher, Ebril 8 (14:30-19:30)
- £25 y plentyn
Archebwch YMA
Aberystwyth RFC
- Mercher, Ebril 8 (14:30-19:30)
- £30 y plentyn
Archebwch YMA
