Gwersylloedd Rygbi wythnos yr Eisteddfod

Rob LloydNewyddion Cymuned

Ydych chi’n mynd ar eich gwyliau i’r Eisteddfod? Os ydych chi’n chwilio am weithgareddau amgen i’r plant wneud gyda’r hwyrnos mae gyda ni’r peth perffaith ar eich cyfer.

Fe fydd Gwersylloedd Rygbi Haf y Scarlets ar yr hewl ac yn ymweld â chlwb rygbi Crymych ac Aberteifi yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Mae’r gwersylloedd, sy’n cael eu rhedeg gan Sefydliad Gymunedol y Scarlets, yn gyfle gwych i wella sgiliau rygbi a gwneud ffrindiau newydd.

Mae’r gwersylloedd yn agored i fechgyn a merched 6-11 mlwydd oed (blwyddyn ysgol 2 i 6), ar wahan i’r gwersyll yn Aberystwyth sy’n agored i ferched 6-16 oed yn unig.

Pris gwersyll yw £25 y sesiwn ac mae’n cynnwys y canlynol:

  • Hyfforddiant gan hyfforddwyr profiadol Sefydliad Gymunedol y Scarlets
  • Crys-t Scarlets
  • Taleb tocyn gêm ar gyfer gêm gartref yn 2026-27

Fe fydd angen i bob plentyn ddod a lluniaeth ysgafn, diod ac esgidiau addas.

Mae dyddiadau a lleoliadau’r gwersylloedd fel a ganlyn;

  • Llun 3 Awst, Clwb Rygbi Crymych, 4.30pm – 7.30pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOFP
  • Mercher 5 Awst, Clwb Rygbi Aberteifi, 4.30pm – 7.00pm
    • https://www.trybooking.com/uk/GOFV

Byddwn ni ar y Maes trwy gydol wythnos yr Eisteddfod hefyd yn cynnig gweithgareddau a chyfle i chi siopa yn stondin VX3. Welwn ni chi yna!