Gwyl rygbi gallu cymysg i agor Sosbanfest

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Fe fydd Sefydliad Gymunedol y Scarlets yn cynnal gwyl rygbi gallu cymysg cyn i’r Scarlets groesawu’r Dreigiau i Barc y Scarlets fel rhan o’i diwrnod thema cynhwysiant.

Clwb Rygbi Sêr y Doc Newydd bydd yn llwyfannu’r digwyddiad ac fe fydd yn ddechreuad arbennig i ddiwrnod olaf tymor Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT y Scarlets.

Mae croeso i gefnogwyr ymuno yn yr achlysur yng nghlwb rygbi Sêr y Doc Newydd cyn gwneud eu ffordd draw i Barc y Scarlets ar gyfer Sosbanfest: Scarlets v Dreigiau.

Y timau a fydd yn cymryd rhan yn yr wyl gallu cymysg bydd timau Dynion a Menywod Rhyfelwyr Llanelli, timau Dynion a Menywod Dragons All Stars, a thîm Menywod Ledbury.

Fe fydd y gemau yn dechrau am 11:00 ac fe fydd y gemau fel a ganlyn;

  • 11:00 – Menywod Rhyfelwyr Llanelli v Menywod Ledbury
  • 12:00 – Menywod Dragons All Stars v Menywod Ledbury
  • 13:00 – Menywod Rhyfelwyr Llanelli v Menywod Dragons All Stars
  • 14:00 – Dynion Rhyfelwyr Llanelli v Dynion Dragons All Stars

Fe fydd y timau yn gwneud eu ffordd i Barc y Scarlets ar ôl y gemau i fwynhau adloniant Sosbanfest cyn mwynhau gêm Scarlets v Dreigiau.