Gŵyl rygbi i ferched fel rhan o ddathliad Diwrnod y Menywod

GwenanNewyddion, Newyddion Cymuned

Fe fydd Arena FSG Arena, Parc y Scarlets, yn llwyfannu dathliad o rygbi cymunedol i ferched nos Wener 20fed Mawrth, wrth i dimau dan 8 a dan 10 o bob cwr o’r rhanbarth ddod ynghyd ar gyfer gŵyl rygbi cyn gêm pan fydd y Scarlets yn croesawu Zebre Parma ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig.

Bwriad y digwyddiad yw i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf o chwaraewyr benywaidd ac fe fydd yn rhan o weithgaredd ehangach Diwrnod y Menywod ym Mharc y Scarlets.

Disgwylir i ddegau o chwaraewyr ifanc gymryd rhan, gan gynrychioli twf parhaol a’r galw am rygbi i ferched yng ngorllewin Cymru.

Gŵyl llawn hwyl, cyfeillgarwch a datblygiad

Fe fydd yr ŵyl yn digwydd yn Arena FSG, lle bydd chwaraewyr yn cymryd rhan mewn cyfres o gemau i ddatblygu sgiliau, hyder, gwaith tîm, a mwynhad o’r gêm.

Dywedodd Paul Fisher, Rheolwr Sefydliad Gymunedol y Scarlets; “Mae twf rygbi i ferched yn y rhanbarth wedi bod yn syfrdanol.

“Mae digwyddiadau fel hyn yn caniatau i chwaraewyr feithrin cyfeillgarwch, datblygu eu sgiliau, ac i fod yn rhan o deulu ehangach y Scarlets.”

Awyrgylch arbennig

Yn dilyn yr ŵyl, fe fydd chwaraewyr ifanc a’u teuluoedd yn heidio am y stadiwm i wylio’r Scarlets yn erbyn Zebre Parma mewn gêm sy’n addo bod yn llawn cyffro o dan y llif-oleuadau.

Gwahoddir timau merched dan 12 a dan 14 i chwarae TAG hanner amser, a thimau dan 16 i groesawu’r tîm i’r cae.

Annogir rhieni, hyfforddwyr a chefnogwyr i gyrraedd yn gynnar i fwynhau’r holl weithgareddau cyn y gêm.

I gofrestru eich tîm ar gyfer yr ŵyl cyn y gêm, TAG hanner amser, neu fel timau croeso, ebostiwch [email protected]

Fe fydd tocynnau pris gostyngedig ar gael i deuluoedd a ffrindiau sy’n dod i gefnogi’r timau pan yn archebu fel grŵp.

Yn ogystal â’r ŵyl cyn y gêm fe fydd gweithgareddau amrywiol yn digwydd o amgylch Parc y Scarlets yn rhan ddathliadau Diwrnod y Menywod. Mwy o fanylion i ddod.

Bydd tocynnau gêm cyffredinol ar gyfer Scarlets v Zebre Parma ar werth o ddydd Llun 5ed Ionawr, 2026.