Llefydd yn brin ar gyfer gŵyl rygbi Sefydliad Gymunedol y Scarlets

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Fe fydd Sefydliad Gymunedol y Scarlets yn cynnal gŵyl rygbi timau mini olaf y tymor ddydd Sadwrn 18 Ebrill, pan fydd y Scarlets yn croesawu Rygbi Caerdydd i’r Parc ym Mhencampwriaeth Rygbi Unedig BKT.

Mae’r ŵyl rygbi, a fydd yn cymryd lle ar gae hyfforddi Parc y Scarlets, ac yn agored i dimau rygbi dan 7 i dan 11 – mae llefydd yn brin felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu.

Fe fydd wyth tîm ym mhob gradd oed yn cymryd rhan yn yr ŵyl, cyn mwynhau’r hyn sydd gan Bentref y Cefnogwyr i’w gynnig.

Mae Arena FSG yn trawsnewid mewn i hwb llawn cyffro ar gyfer y gymuned gyfan ar ddiwrnod gêm, gan gynnig gweithgareddau amrwyiol, cerddoriaeth, cyfle i gyfarfod chwaraewyr a llawer mwy.

Dewch i fwynhau diwrnod arbennig i’r teulu oll.

I gofrestru eich tîm, a derbyn ffurflen archebu, ebostiwch [email protected] gyda’ch manylion cyswllt, clwb ac oed eich tîm*.

*Fe fydd yr ŵyl yn dilyn llwybr cyfreithiol chwarae URC. Mae disgwyl i chi brynu oleiaf deg tocyn oedolyn gyda phob tîm sy’n cofrestru ar gyfer yr ŵyl.