Ymunwch â ni ar gyfer rownd agoriadol Pencampwriaeth Rygbi Unedig BKT pan fyddwn ni’n croesawu Rygbi Caerdydd i Barc y Scarlets.
Bydd y tymor cystadleuol yn dechrau ddydd Sadwrn 26 Medi am 19:45 ac mae llefydd lletygarwch yn gwerthu’n gyflym.
Os ydych am fwynhau awyrgylch clwb rygbi traddodiadol, holl gyffro’r gêm a diodydd am ddim cyn y gêm y Clwb Carwyn yw’r lle ar eich cyfer chi!
O £95 y pen fe gewch chi fynediad i Lolfa Carwyn James, sydd â golygfa panoramig dros y cae, pryd un cwrs, sesiwn Holi ac Ateb gyda cyn chwaraewr, sedd gyfforddus tu allan i’r lolfa i wylio’r gêm, a diodydd am ddim am ddwy awr cyn y gêm.
Mae gan brofiad diwrnod gêm VIP y Scarlets yng Nghlwb Busnes Cadog Homecare enw da am fod yn un o’r rhai mwyaf cofiadwy a phleserus. Rydym yn cyfuno brand ac arddull rygbi’r Scarlets ar y cae â chynigion cynnes a sylwgar yn ein Lolfa Quinnell. Dyma’r lle i rwydweithio neu ymlacio.
Mae Aelodaeth o’r Clwb Busnes yn dod â ffactor teimlo’n dda digwyddiad rygbi byw, ynghyd â chysur ein cyfleusterau lletygarwch blaenllaw. P’un a ydych chi eisiau creu argraff ar gleientiaid presennol neu ddarpar gleientiaid, neu dreulio amser gyda theulu a ffrindiau, rydych chi’n siŵr o gael profiad cadarnhaol iawn ym Mharc y Scarlets.
O £150 y pen, byddwch chi’n cael mynediad i Lolfa Quinnell Cadog Homecare, pryd o fwyd tair cwrs, sesiwn holi ac ateb cyn y gêm, tocyn gêm premiwm, danteithion blasus ar ôl y gêm, yn ogystal â mynediad i’r lolfa cyn ac ar ôl y gêm.
I archebu y naill pecyn neu’r llall, cliciwch yma
Rydyn ni’n falch iawn o gynnig pecyn tocyn gêm ac aros dros nos mewn cydweithrediad â Gwesty’r Diplomat, Llanelli.
I ddarganfod mwy am ein pecyn gwely, brecwast a rygbi cliciwch yma
