Pecyn gwely, brecwast a rygbi!

Rob LloydNewyddion

Does dim byd yn debyg i ddiwrnod gêm ym Mharc y Scarlets, ac mae cefnogwyr yn awr yn gallu mwynhau profiad arbennig gyda’n pecyn Gwely, Brecwast a Rygbi, mewn partneriaeth â Gwesty’r Diplomat.

Boed eich bod yn teithio a bell, yn dathlu achlysur arbennig, neu’n awyddus i fwynhau penwythnos heb ffws a ffwdan, mae’r Pecyn Gwely, Brecwast a Rygbi yn berffaith ar eich cyfer chi.

Profiad Diwrnod Gêm Arbennig

Peidiwch â phoeni am y teithio a mwynhewch penwythnos arbennig o rygbi. Mae’r pecyn gwely, brecwast a rygbi wedi ei gynllunio i’ch cynorthwyo chi i fwynhau’r awyrgylch cyn y gêm a noson cyfforddus ar ôl y chwiban olaf.

Wedi ei leoli munudau o Barc y Scarlets, mae Gwesty’r Diplomat yn cynnig llety moethus, lletygarwch arbennig a chyfleusterau hamdden.

Beth yw cynnwys y pecyn?

Fe fydd pob pecyn yn cynnwys:

Yng Ngwesty’r Diplomat

  • Llety dros nos yng Ngwesty’r Diplomat 4*
  • Defnydd llawn o’r Clwb Iechyd a’r Sba
  • Brecwast
  • Gwasanaeth bws i Barc y Scarlets ac yn ôl

Ym Mharc y Scarlets

  • Mynediad i Lolfa Carwyn James
  • Pryd o fwyd un cwrs
  • Bar am ddim am ddwy awr
  • Tocyn gêm premiwm
  • Sesiwn Holi ac Ateb cyn y gêm

P’un a ydych chi’n cynllunio trip teuluol, penwythnos i ffwrdd gyda ffrindiau neu’n rhoi pleser i rywun arbennig, mae’r pecyn yn cynnig ffordd gofiadwy o brofi rygbi’r Scarlets.

Arhoswch, Cefnogwch, Dathlu

Mae gêm gartref y Scarlets yn fwy na 80 munud o rygbi, mae’n ymwneud â’r awyrgylch, y gymuned a chreu atgofion parhaol. Drwy gyfuno tocynnau gêm â llety o safon, mae’r pecyn yn caniatáu i gefnogwyr fwynhau pob eiliad heb boeni am y daith adref.

Ar ôl y gêm, ymlaciwch gyda diod ym mar y gwesty, mwynhewch gyfleusterau’r gwesty a deffro’n ffres yn barod i archwilio Llanelli a Sir Gaerfyrddin cyn mynd adref.

Archebwch eich lle

Mae pecynnau ar gael ar gyfer gemau cartref dethol drwy gydol y tymor ac maent yn ddibynnol ar argaeledd.

Anogir cefnogwyr i archebu’n gynnar i sicrhau eu gêm a’u llety dewisol.

Mae’r pecyn Gwely, Brecwast a Rygbi ar gael o £135 y pen, wedi ei selio ar ddau yn rhannu.

Am wybodaeth archebu, prisiau ac argaeledd gemau, cysylltwch â Thîm Masnachol y Scarlets ar [email protected] neu ffoniwch 01554 783906.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Barc y Scarlets am benwythnos rygbi bythgofiadwy.