Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn falch o gyhoeddi lansiad ymgyrch newydd, Maethu yn Llanelli.

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Mae Maethu Cymru Sir Gâr yn falch o gyhoeddi lansiad ymgyrch newydd, Maethu yn Llanelli.



Er mai Llanelli yw prif ffocws yr ymgyrch, mae’r angen brys am ofalwyr maeth ledled Sir Gâr yn parhau, ac mae ymdrechion recriwtio yn parhau ledled y sir.

Mae Maethu Cymru Sir Gâr am herio camsyniadau cyffredin sy’n aml yn atal gofalwyr maeth posibl rhag gwneud ymholiadau, gan roi sicrwydd i ddarpar ofalwyr maeth fod cymorth a hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu ac y gall pobl o bob cefndir faethu.

Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn maethu i fynd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb i gwrdd â’r tîm, i ofyn cwestiynau, ac i ddarganfod sut y gallai maethu gyd-fynd â’u bywydau.

I ddysgu mwy am faethu neu i ddechrau eich taith faethu, ewch i Maethu Cymru Sir Gâr.