Marnus van der Merwe i adael y Scarlets ar ddiwedd y tymor

GwenanFeatured

Fe all y Scarlets cadarnhau fydd y bachwr Marnus van der Merwe yn gadael y clwb ar ddiwedd y tymor i ymuno â Munster.

Mae Marnus wedi cyfrannu’n sylweddol at berfformiad y garfan yn ystod ei amser yn Ngorllewin Cymru, ar ac oddi ar y cae, a hoffir y clwb ei ddiolch am ei broffesiynoldeb, ymrywmiad a chyfraniad o fewn y grwp a dymuno’r gorau iddo ef a’i wraig am y tymor nesaf.

Ymunodd Marnus a’r Scarlets ar ddechrau ymgyrch 2024-25 o’r Toyota Cheetahs yn Ne Affrica ac wedi ymddangos 38 o weithiau, a chroesi am dair cais.

Yn ystod ei ymgyrch cyntaf, enillodd y bachwr 29 oed gwobr Chwaraewr y Cefnogwyr, a gafodd ei enwi yn ‘Elite XV’ y URC yn ogystal â ennill ei gap cyntaf i’r Springboks.

Dywedodd: “Dwi wedi mwynhau fy amser gyda’r Scarlets, mae’n glwb arbennig iawn gyda phobl arbennig sydd wedi croesawu fy wraig a finnau o’r diwrnod cyntaf. Hoffwn ddiolch i fy nghyd chwaraewyr, hyfforddwyr, staff ac wrth gwrs y chwaraewyr.

“Mae cael y cyfle i chwarae yma wedi fy helpu i sylweddoli fy mreuddwyd o wisgo crys y Springboks ac rwy’n falch iawn wedi gwrieddu’r freuddwyd yma tra’n cynrychioli’r Scarlets.

“Byddai’n drist iawn i ddweud ffarwel, ond mae gyda ni cwpl o gemau mawr ar ôl i chwarae ym Mharc y Scarlets y tymor hwn a dyna beth dwi’n i ganolbwyntio ar gan helpu rhoi perfformiad da a chael y canlyniad i ni’n haeddu.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi dros dro y Scarlets Nigel Davies: “Mae Marnus wedi cyfrannu’n sylweddol at y clwb yn ystod ei amser yma, mae’n gystadleuwr brwd gyda safonnau uchel ac mae’r blaenwyr ifanc sydd gyda ni yma wedi dysgu llawer.

“Rydym hefyd yn falch iawn o’r rol wnaeth y Scarlets chwarae yn ei ddatblygiad a’i weld yn ennill ei gap rhyngwladol cyntaf i Dde Affrica, ac mae hynny’n adlewyrchiad o’r amgylchedd a’r safonnau i ni’n anelu at greu yma.”

Ychwanegodd Davies: “Beth sy’n bwysig yw ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar weddill y tymor, i weithio’n galed ac i symud ymlaen gyda phwrpas ac uchelgais.

“Mae gyda ni Bwrdd sydd yn hollol ymrwymedig i ddyfodol rygbi yng Ngorllewin Cymru ac mae’r ymrwymiad yna wedi’i danlinellu gan fuddsoddiad yn ein cyfleusterau a’r amgylchedd perfformiad.

“Rydym yn parhau i adeiladu ar garfan o chwaraewyr talentog, cyffrous a uchel eu cymhelliant yma ym Mharc y Scarlets. Mae yna egni o amgylch y grwp ac rydym yn chwilio i gryfhau’r garfan ar gyfer y tymor nesaf. Rydym yn hyderus ein bod ar y trywydd cywir.

“Mae golwg y Scarlets yn parhau ar greu amgylchedd cystadleuol ac uchelgeisiol lle mae cyfle i chwaraewyr i adeiladu, i lwyddo ac i gyrraedd eu potensial gyda charfan sydd yn adlewyrchu ar werthoedd y clwb a’u cefnogwyr.”