Y bachwr De Affrig Marnus van der Merwe sy’n dychwelyd i XV y Scarlets i ddechrau yn erbyn y DHL Stormers yn y drydedd rownd o’r Bencampwriaeth Rygbi Undeig ar nos Wener ym Mharc y Scarlets (19:45; S4C & Premier Sports).
Wedi’i gapio gan y Springboks yn yr haf, mae Marnus wedi’i enwi fel un o ddau newid i’r tîm a ddewisiwyd ar gyfer y gêm yn erbyn Connacht penwythnos diwethaf.
Gyda Jake Ball allan ar ôl taro’i ben yn ystod ymarfer, mae’r clo yn dilyn protocol dychwelyd i chwarae felly mae Tristan Davies yn dod i mewn i’r ail reng wrth ochr Max Douglas. Mae’r cyn Scarlet Steve Cummins wedi cyrraedd ar gytundeb byrdymor o’r Dreigiau ac wedi’i enwi ar y fainc.
Does dim newid ymysg yr olwyr gyda’r canolwr Johnny Williams yn paratoi i arwain y tîm allan am y tro cyntaf.
Tri ôl rhyngwladol sydd wedi’u henwi trwy Blair Murray, Ellis Mee a Tom Rogers, a Williams yn bartner i Joe Roberts yn nghanol cae. Ein haneri bydd Joe Hawkins a Gareth Davies. Mae Sam Costelow ar gael ac wedi’i enwi ar y fainc.
Yn y rheng flaen, Marnus sydd yn cydweithio â’r ddau brop Alec Hepburn a Henry Thomas. Tristan Davies a Max Douglas sydd yn cyfuno yn yr ail reng. Jarrod Taylor, Dan Davis a Taine Plumtree sydd yn cwblhau’r rheng ôl.
Archer Holz, ymddangosodd i Cwins Caerfyrddin penwythnos diwethaf yn dilyn salwch, sydd wedi nawr ei enwi fel eilydd prop pen tynn, tra fod y chwaraewr rheng ôl Ben Williams yn paratoi am ei ymddangosiad cyntaf yn y bencampwriaeth o’r tymor.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae’r Stormers wedi bod yn dda mor belled. Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor beryglus ydyn nhw ar y cae, ond mae ganddyn nhw gryfder go iawn yn y blaenwyr a dyna’r her. Mae’n bwysig i ni berfformiad a chystadlu, bod yn ddewr gyda’r bêl a hebddi. Dydy anafiadau ddim wedi helpu ein paratoadau, mae gennym ni garfan lai y tymor hwn ac mae hynny’n profi ein dyfnder, ond mae hefyd yn darparu cyfleoedd i chwaraewyr iau, sydd wedi dangos eu bod nhw’n barod ac yn awyddus am eu cyfle.”
Tîm y Scarlets i wynebu’r DHL Stormers ym Mharc y Scarlets ar ddydd Gwener, Hydref 10 (7.45yh)
15 Blair Murray; 14 Tom Rogers, 13 Joe Roberts, 12 Johnny Williams (capt), 11 Ellis Mee; 10 Joe Hawkins, 9 Gareth Davies; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Tristan Davies, 5 Max Douglas, 6 Jarrod Taylor, 7 Dan Davis, 8 Taine Plumtree.
Eilyddion: 16 Kirby Myhill, 17 Sam O’Connor, 18 Archer Holz, 19 Steve Cummins, 20 Ben Williams, 21 Dane Blacker, 22 Sam Costelow, 23 Macs Page.
Ddim ar gael oherwydd anaf/salwch
Jake Ball, Josh Macleod, Sam Lousi, Kemsley Mathias, Ryan Elias, Eddie James, Jac Price, Osian Williams, Will Evans, Dom Kossuth.
