Mae’r prif hyfforddwr Dwayne Peel wedi ailgymysgu’r tîm ar gyfer yr ail rownd o Gwpan Pencampwyr Investec yn erbyn y pencampwyr presennol Union Bordeaux Bègles yn Stade Chaban-Delmas (17:30 amser DU; Premier Sports).
Yn dilyn y golled penwythnos diwethaf yn erbyn Bristol Bears, mae wyth newid i’w weld i’r tîm, gyda rhai o ganlyniad i anaf.
Yn y tri ôl, Jac Davies sydd yn parhau yng nghrys rhif 15; ar yr asgell dde, mae Tomi Lewis yn cymryd lle Tom Rogers – sydd wedi pigo lan anaf yn ystod ymarferion yn yr wythnos – tra bod Ellis Mee yn parhau ar yr asgell chwith.
Yng nghanol cae fydd y canolwyr rhyngwladol Joe Roberts ac Eddie James wrth i Johnny Williams golli mas ar y gêm hon oherwydd anaf i’w goes. Mae yna bartneriaeth newydd wrth i Joe Hawkins a Dane Blacker cael eu henwi fel haneri.
Yn y rheng flaen mae yna driawd o chwaraewyr rhyngwladol gydag Alec Hepburn, Marnus van der Merwe a Henry Thomas yn camu i fyny. Thomas, a gafodd effaith mawr ar y gêm yn erbyn y Bears o’r fainc, sydd yn cymryd safle Archer Holz sydd wedi’i anafu.
Mae Max Douglas wedi’i enwi fel clo i gydweithio â Jake Ball gyda’r capten Josh Macleod yn newid i’r ochr dywyll a Dan Davis yn dod i mewn ar yr ochr agored. Fletcher Anderson sy’n parhau fel yr wythwr.
Ymysg yr eilyddion, mae’r mewnwr Archie Hughes yn dychwelyd o anaf.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Roedd cwpl o adegau yn y gêm penwythnos diwethaf lle nad oedd y perfformiad i’r safon, ac wrth edrych yn ôl roedd hynny’n siomedig. Mae’n dangos pa mor gystadleuol yw rygbi Cwpan Pencampwyr, ond er hynny roedd yr ymdrech a rhoddwyd yn gam yn y cyfeiriad cywir.
“Mae gan Bordeaux dyfnder yn eu carfan. Mae ganddyn nhw bŵer, cyflymder a sgil ymysg chwaraewyr penigamp.
“Mae’r gallu sydd ganddyn nhw fel carfan ar y foment yn bwerus dros ben. Bydd hyn yn her enfawr i ni, ond dyna pam mae’r gystadleuaeth yma mor arbennig, gyda’r cyfleoedd yma i chwarae yn erbyn timau o’r safon yma.
“Beth sy’n bwysig yw i ni beidio canolbwyntio ar ddelwedd Bordeaux, mae rhaid i ni fynd i mewn i’r gêm yma fel cyfle i drial torri tir newydd a chreu gymaint o ddiflasdod ag sy’n bosib. Dyna beth dwi’n gofyn o’r bois.
“Mae Bordeaux yn ardal arbennig i chwarae rygbi. Bydd yr awyrgylch yn grêt, torf fawr a llawer o gefnogwyr y Scarlets yna hefyd. Rwy’n disgwyl ymlaen yn fawr at yr achlysur.”
Tîm y Scarlets i wynebu Union Bordeaux Bègles ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 13 (17:30; Premier Sports)
15 Jac Davies; 14 Tomi Lewis, 13 Joe Roberts, 12 Eddie James, 11 Ellis Mee; 10 Joe Hawkins, 9 Dane Blacker; 1 Alec Hepburn, 2 Marnus van der Merwe, 3 Henry Thomas, 4 Max Douglas, 5 Jake Ball, 6 Josh Macleod (capt), 7 Dan Davis, 8 Fletcher Anderson.
Eilyddion: 16 Ryan Elias, 17 Kemsley Mathias, 18 Harri O’Connor, 19 Sam Lousi, 20 Jarrod Taylor, 21 Archie Hughes, 22 Sam Costelow, 23 Macs Page.
Ddim ar gael oherwydd anaf
Tom Rogers, Archer Holz, Johnny Williams, Taine Plumtree, Blair Murray, Ioan Nicholas, Tristan Davies, Ioan Jones, Will Evans, Dom Kossuth.
