Parc y Scarlets i gynnal gêm ail-gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Albania

Rob LloydNewyddion

Bydd Parc y Scarlets yn cynnal ail gymal gêm ail-gyfle Rownd Gyntaf Cymru ar gyfer cyrraedd Cwpan y Byd FIFA Menywod 2027 yn erbyn Albania ar nos Fawrth 13 Hydref (amser KO i’w gadarnhau).

Bydd Cymru yn dychwelyd i Lanelli yn dilyn perfformiad arbennig yno ym mis Mawrth yn erbyn Montenegro yn y rownd ragbrofol, lle wnaeth Hannah Cain a Mared Griffiths sgorio dwy gôl yr un, a wnaeth Sophie Ingle a Rachel Rowe hefyd cael gôl yr un.

Mae Rhian Wilkinson yn gobeithio gweld y cefnogwyr yn troi allan yn eu niferoedd unwaith eto ym mis Hydref. “Rwy’n mwynhau chwarae yn Llanelli yn fawr.

“Mae’r awyrgylch bob amser yn wych, a bydd Y Wal Goch yn chwarae rhan enfawr wrth helpu i ni groesi’r llinell derfyn yn beth fydd yn gêm anodd arall. Rwy’n gobeithio y gallwn, gyda’n gilydd, greu noson arbennig arall ym Mharc y Scarlets.”

Bydd Cymru yn wynebu Albania yn y Rownd ail-gyfle Rownd Gyntaf dros ddau gymal. Pe bai tîm Rhian Wilkinson yn symud ymlaen, byddent wedyn yn wynebu’r enillwyr rhwng Romania a Norwy mewn gêm ail gyfle Ail Rownd dros ddau gymal yn ystod ffenestr ryngwladol Tachwedd/Rhagfyr, gyda’r gêm gartref yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae esboniad o’r broses ar gael yma.

Bydd gwybodaeth am docynnau ar gyfer y gêm yn Llanelli ar gael maes o law.