Parc y Scarlets i lwyfannau rowndiau terfynol Cwpan Scarlets Dunbia

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu rowndiau terfynol cymunedol Cwpan Scarlets Dunbia penwythnos yma.

Mae’r penwythnos, sydd wedi ei drefnu yn flynyddol gan Sefydliad Gymunedol y Scarlets, yn gyfle arbennig i dimau iau o bob cwr o orllewin Cymru, chwarae eu gemau terfynol yng nghartref y Scarlets.

Llongyfarchiadau mawr i’r holl dimau sydd wedi cymryd rhan, a llongyfarchiadau pellach i’r timau sydd wedi cyrraedd y rowndiau terfynol eleni.

Boed eich bod chi’n cefnogi rhywun yn y teulu, yn gefnogwr brwd o’ch tîm lleol, neu awydd mwynhau gwylio rygbi cymunedol ym Mharc y Scarlets, fe fydd croeso cynnes i bawb.

Gallwch brynu tocynnau wrth y drws.

Gwener 22 Mai – Sul 24 Mai: Penwythnos Rowndiau Terfynol Scarlets Dunbia

Gwener 22 Mai

  • 18:00 Rownd Derfynol Hwb Merched Dan 12: Eryrod Hwlffordd v Merched Mynydd Mawr
  • 19:15 Rownd Derfynol Hwb Merched Dan 14: Siarcod De Sir Benfro v Sospans Strade

Sadwrn 23 Mai

  • 13:30 Rownd Derfynol Plât Ieuenctid: Arberth v Ffwrnes
  • 15:00 Rownd Derfynol Cwpan Ieuenctid: Hwlffordd v Castellnewydd Emlyn

Sul 24 Mai

  • 10:00 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 12: Quins Caerfyrddin v Hwlffordd
  • 11:30 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 13: Llangennech v Dinbych y Pysgod
  • 13:00 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 14: Athletic Caerfyrddin v Dinbych y Pysgod
  • 14:30 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 15: Brynaman v Abergwaun
  • 16:00 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 16: Llanymddyfri v Hwlffordd