Parc y Scarlets i lwyfannau rowndiau terfynol cymunedol

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Fe fydd Parc y Scarlets yn llwyfannu rowndiau terfynol cymunedol mis yma mewn dathliad arbennig o rygbi llawr gwlad gorllewin Cymru.

Bydd timau ieuenctid ac oedolion o bob cwr o’r rhanbarth yn cael cyfle i chwarae ar gae Parc y Scarlets a chynrychioli eu clwb lleol mewn rowndiau terfynol cwpan a phlât.

Boed eich bod chi’n cefnogi rhywun yn y teulu, yn gefnogwr brwd o’ch tîm lleol, neu awydd mwynhau gwylio rygbi cymunedol ym Mharc y Scarlets, fe fydd croeso cynnes i bawb.

Gallwch brynu tocynnau ar y drws.

Sadwrn 9 Mai: Rowndiau Terfynol Cwpan Llanelli a’r Ardal 

  • 13:30 Rownd Derfynol y Plât AJT Recycling: Felinfoel v Tre Llambed
  • 16:00 Rownd Derfynol Cwpan AJT Recycling: Aberaeron v Porth Tywyn

I’r rheini sy’n methu teithio i Gae’r Bragdy, fe fydd Lolfa Strade Lounge ar agor o 15:30 i gefnogwyr wylio Gweilch v Scarlets, cic gyntaf 17:30.

Gwener 22 Mai – Sul 24 Mai: Penwythnos Rowndiau Terfynol Scarlets Dunbia

Gwener 22 Mai

  • 18:00 Rownd Derfynol Hwb Merched Dan 12
  • 19:15 Rownd Derfynol Hwb Merched Dan 14

Sadwrn 23 Mai

  • 13:30 Rownd Derfynol Plât Ieuenctid
  • 15:00 Rownd Derfynol Cwpan Ieuenctid

Sul 24 Mai

  • 10:00 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 12
  • 11:30 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 13
  • 13:00 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 14
  • 14:30 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 15
  • 16:00 Rownd Derfynol Bechgyn Dan 16

Gwener 29 Mai: Dathliad 50 mlynedd Ysgolion Cymru Dan 11

  • 18:00 Gêm 1
  • 19:00 Gêm 2

Caiff y timau eu cadarnhau ar ôl chwarae’r rowndiau terfynol lleol.