Partïon Penblwydd i’w trysori

Rob LloydNewyddion

Ydych chi wrthi’n trefnu parti penblwydd ar gyfer eich plentyn sydd wrth eu bodd gyda rygbi? 

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi cynnig newydd sbon i chi a’ch teulu rygbi fwynhau ym Mharc y Scarlets yn ystod tymor 2026/27.

Ymunwch â ni yn y Parc am un o’n gemau cartref yn ystod y tymor newydd, dathlwch y penblwydd arbennig mewn steil, a gwnewch atgofion melys a fydd yn siwr o barhau am oes!

Mae ein Pecynnau Penblwydd, wedi eu creu yn arbennig ar gyfer y bobl ifanc yn eich bywyd, yn anrheg arbennig ac yn ddathliad a fydd yn siwr o greu argraff.

Mae’r Pecyn Penblwydd, am £500, yn cynnwys;

  • Blwch lletygarwch preifat i hyd at 12 o westeion
  • Pryd plant dau gwrs
  • Jwgiau o sgwash
  • Pêl Scarlets wedi ei arwyddo ac wedi ei gyflwyno gan un o chwaraewyr y Scarlets
  • Cyhoeddiad penblwydd yn ystod hanner amser
  • Cerdyn penblwydd wedi ei arwyddo gan gapten y Scarlets
  • Ymweliad arbennig i’ch blwch dan ddau o chwaraewyr y Scarlets
  • 10 sedd tu allan i’r blwch a dau sedd i wylio wrth y ffenstr
  • Te a choffi am ddim i’r rhieni

Ychwanegiadau

  • Cacen penblwydd a chanhwyllau
  • Nwyddau Scarlets i fynd adref gyda chi
  • Ychwanegiadau diodydd meddal
  • Balwns penblwydd
  • Pryd bwyd i’r oedolion
  • Taith o’r stadiwm

Termau ac amodau

  • Mae’n rhaid bod dau oedolyn yn rhan o’r grwp
  • Mae’r pecyn penblwydd ar gael i blant dan 16 oed
  • Gallwch archebu Pecyn Penblwydd ar gyfer gemau Categori B penodedig, yn ddibynnol ar argaeledd

Am wybodaeth bellach neu i wirio argaeledd gêm penodol, cysylltwch nawr ar 01554 783906 neu ebostiwch [email protected]