Mae yna brynhawn arbennig o chwaraeon menywod o’n blaenau ym Mharc y Scarlets penwythnos yma.
Fe fydd Cymru yn wynebu Montenegro ddydd Sadwrn, cic gyntaf 4.30pm, yng ngêm cymeradwyo ar gyfer Cwpan Byd FIFA.
Croesawodd Cymru Kosovo i’r Parc nôl ym mis Gorffennaf 2024, gan sicrhau buddugoliaeth yng nghystadleuaeth cymhwyso Euro 2025.
Gwelwyd Jess Fishlock yn torri record y mwyaf o goliau dros Gymru yn y gêm yna o flaen torf o 4,000. Fe fydd Rhian Wilkinson a’r chwaraewyr yn gobeithio y bydd y Wal Goch yn niferus unwaith eto i gefnogi Cymru.
Mae tocynnau ar gael YMA

Dydd Sul, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, fe fydd Brython Thunder yn croesawu Gwalia Lightning mewn gêm holl bwysig yn rownd 10 yr Her Geltaidd.
Fe fydd buddugoliaeth i Brython – sydd wedi ennill ei pedwar gêm diwethaf – yn sicrhau eu lle yn y rownd cyn derfynol.
Mae tîm Brython yn llawn talent ifanc cyffrous yn ogystal â nifer o chwaraewyr rhyngwladol profiadol, ac mae’n addo bod yn gêm a hanner!
Gallwch brynu tocynnau i gêm Brython v Gwalia o swyddfa docynnau Parc y Scarlets, trwy ffonio 01554 292939 neu YMA
