Pwy yw eich Chwaraewr y Mis?

GwenanFeatured

Mae’n amser i bleidleisio am eich Chwaraewr y Mis, mewn cydweithrediad â Vaughan Construction.

Mae’r wobr, sef yr un gyntaf o’r tymor, yn cynnwys y chwe gêm agoriadol o’r ymgyrch – y darbi Cymreig yn erbyn Caerdydd a’r Dreigiau, y buddugoliaeth yn erbyn Benetton, ein buddugoliaeth Cwpan Her yn erbyn Newcastle Red Bulls a’r perfformiadau allan yn Ne Affrica.

Mae’r Scarlets wedi croesi am sawl cais gofiadwy ar hyd y ffordd, gyda nifer o unigolion yn sefyll mas.

Dyma’r pedwar enwebiad am wobr Medi/Hydref.

Macs Page

Mae’r gwibiwr o Sir Benfro wedi serennu o ddechrau’r tymor, gan groesi am bum cais mewn pum gêm cystadleuol, yn cynnwys yr ymdrech unigol yn erbyn y Dreigiau. Mae ei berfformiadau ar yr asgell wedi ei weld yn cael ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Cenhedloedd mis Tachwedd yma.

Blair Murray

Un a wnaeth ennill wobr seren y gêm yn erbyn Benetton, a sbarduno’r ymdrech i guro Benetton trwy rhyngipiad i groesi am gais, mae Blair wedi’i gynnwys yn y pum uchaf o’r bencampwriaeth am fetrau enillwyd a gurwyd, er iddo golli mas ar y ddau rownd diwethaf o’r gystadleuaeth.

Joe Roberts

Un o sêr y daith yn Ne Affrica, mae Roberts wedi serennu yng nghanol cae i’r Scarlets. Llwyddodd i groesi am dri chais yn erbyn y Stormers gan hawlio un arall yn erbyn y Bulls i godi ei gyfanswm i bump – yn gyfartal gyntaf ar dabl URC. Yn anffodus i golli mas ar gael ei gynnwys yng ngharfan Cymru.

Josh Macleod

Mae’r capten wedi arwain o’r blaen ac yn hawlio teitl URC am y mwyaf o daclau mor belled yn yr ymgyrch. Roedd yn wych yn y fuddugoliaeth yn erbyn Newcastle yn amddiffynol ac yn ardal y dacl, heb anghofio ei ymdrech yn y ddau gêm yn Ne Affrica.

Gallwch bleidleisio YMA