Bydd Scarlets yn cychwyn eu hymgyrch Cwpan Her 2026/27 trwy groesawu Newcastle Red Bulls i Barc y Scarlets.
Ar Ddydd Sadwrn, Hydref 17 bydd y rownd gyntaf yn cymryd lle o flaen camerau S4C, gyda’r gic gyntaf am 8yh.
Mae’r Red Bulls wedi recriwtio sawl enw proffil uchel dros y 12 mis diwethaf, gan ddod â chwaraewyr fel seren Blues Super Rugby Hoskins Sotutu, mewnwr Sale Raffi Quirke a’r asgellwr De Affrig Werner Kok, ymysg eraill.
Mi fydd hefyd yn gyfle i groesawu yn ôl arwr y clwb Stephen Jones, sydd yn rhan o’r tîm hyfforddi yn Kingston Park. Chwaraeodd Jones 316 o gemau i’r Scarlets yn ystod ei 15 tymor yma, ac fel hyfforddwr fe gynorthwyodd y tìm i ennill teitl y PRO12 yn 2017.
Yn yr ail rownd, bydd Scarlets yn teithio i Dde Affrica i wynebu’r Hollywoodbets Sharks yn Durban ar Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 12.
Mae’r drydedd rownd yn ein gweld yn dychwelyd i dir cyfarwydd i herio’r ochr Ffrengig LOU Rugby, tîm fydd yn sicr â golwg ar y rownd derfynol ym mis Mai, gyda Lyon wedi’i enwi fel leoliad y rownd derfynol am Gwpan Pencampwyr a Chwpan Her EPCR.
Bydd Scarlets yn cwblhau’r gemau pool gyda thaith i wynebu Castres Olympique yn Stade Pierre Fabre. Mae’r bedwaredd rownd yn cychwyn am 4.15yp ar ddydd Sadwrn, Ionawr 16.
Gemau Pool Cwpan Her Scarlets
Sad, Hyd 17 – Scarlets v Newcastle Red Bulls (8pm; S4C)
Sad, Rhag 12 – Hollywoodbets Sharks v Scarlets (7.30pm; EPCR TV)
Sad, Ion 9 – Scarlets v LOU Rugby (8pm; EPCR TV)
Sad, Ion 16 – Castres Olympique v Scarlets (4.15pm; EPCR TV)

