Fe fydd y Scarlets yn croesawu Saracens i Barc y Scarlets nos Wener 18 Medi ar gyfer gêm gyfeillgar cyn i dymor BKT URC gychwyn.
Mae’r gêm wedi ei gynnwys fel rhan o becynnau tocyn tymor 2026-27, gyda dalwyr tocyn tymor yn cael mynediad i’r gêm yn rhad ac am ddim.
Fe fydd Eisteddle Owens Group Gogledd a Castell Howell De ar agor ar gyfer y gêm gyda dalwyr tocyn tymor yn cael y cyfle i eistedd yn eu seddau cadw am y tro cyntaf yn nhymor 2026-27!
Ry’n ni’n falch iawn o gyhoeddi ein Cynnig Cyfaill i ddalwyr tocyn tymor, £15 yn unig i oedolyn pan cyflwynir y prynwr, neu os yw’r tocynnau’n cael eu prynu gan daliwr tocyn tymor.
Felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n cyflwyno ffrind newydd i’r Parc, yn annog hen gyfaill i ddychwelyd, neu’n dod a’r teulu cyfan am noson arbennig o rygbi ddechrau’r tymor newydd.
Tocyn tymor yw’r ffordd orau a mwyaf economaidd o gefnogi’r Scarlets.
- 9 gêm cartref ym Mharc y Scarlets yn nhymor arferol URC
- 2 gêm grŵp Ewropeaidd ym Mharc y Scarlets
- 1 gêm gyfeillgar
- Cyfle i brynu tocynnau i gemau ail gyfle’r Scarlets yn Mharc y Scarlets cyn yr arwerthiant cyhoeddus
- Mynediad am ddim i gemau graddau oed y Scarlets yn ysgol tymor 2026-27
- Gwahoddiad i sesiwn ymarfer agored yn ystod tymor 2026-27
- Gostyngiad oddi ar fwyd a diod ar ddiwrnodau gêm ym Mharc y Scarlets
- Tocynnau gostyngedig ychwanegol i deulu a ffrindiau ar gyfer gemau penodol, gemau i’w cadarnhau
- Gostyngiadau yn siop VX3
- Aelodaeth am ddim i Crys16
- Gostyngiad o 10% oddi ar fwyd a diod yn Lolfa Strade yn ystod yr wythnos
Cliciwch YMA i weld manylion y pecynnau.
Mae tocynnau i’r gêm a phecynnau lletygarwch (argaeledd prin iawn) ar gael i’w prynu yma
