Scarlets v Saracens: Cynnig cyfaill dalwyr tocyn tymor

Rob LloydFeatured

Fe fydd y Scarlets yn croesawu Saracens i Barc y Scarlets nos Wener 18 Medi ar gyfer gêm gyfeillgar cyn i dymor BKT URC gychwyn.

Mae’r gêm wedi ei gynnwys fel rhan o becynnau tocyn tymor 2026-27, gyda dalwyr tocyn tymor yn cael mynediad i’r gêm yn rhad ac am ddim. 

Fe fydd Eisteddle Owens Group Gogledd a Castell Howell De ar agor ar gyfer y gêm gyda dalwyr tocyn tymor yn cael y cyfle i eistedd yn eu seddau cadw am y tro cyntaf yn nhymor 2026-27!

Ry’n ni’n falch iawn o gyhoeddi ein Cynnig Cyfaill i ddalwyr tocyn tymor, £15 yn unig i oedolyn pan cyflwynir y prynwr, neu os yw’r tocynnau’n cael eu prynu gan daliwr tocyn tymor. 

Felly gwnewch yn siwr eich bod chi’n cyflwyno ffrind newydd i’r Parc, yn annog hen gyfaill i ddychwelyd, neu’n dod a’r teulu cyfan am noson arbennig o rygbi ddechrau’r tymor newydd.

Tocyn tymor yw’r ffordd orau a mwyaf economaidd o gefnogi’r Scarlets.

  • 9 gêm cartref ym Mharc y Scarlets yn nhymor arferol URC
  • 2 gêm grŵp Ewropeaidd ym Mharc y Scarlets
  • 1 gêm gyfeillgar 
  • Cyfle i brynu tocynnau i gemau ail gyfle ym Mharc y Scarlets cyn gwerthiant cyhoeddus
  • Mynediad am ddim i gemau graddau oed y Scarlets yn ysgol tymor 2026/27
  • Gwahoddiad i sesiwn ymarfer agored yn ystod tymor 2026/27
  • Gostynigad oddi ar fwyd a diod ym Mharc y Scarlets ar ddiwrnodau gêm y Scarlets
  • Tocynnau gostyngedig ychwanegol i deulu a ffrindiau ar gyfer gemau penodol, gemau i’w cadarnhau
  • Gostyngiadau yn siop VX3 
  • Aelodaeth am ddim i Crys16
  • Gostyngiad o 10% oddi ar fwyd a diod yn Lolfa Strade yn ystod yr wythnos

Cliciwch YMA i weld manylion y pecynnau.

Mae tocynnau i’r gêm a phecynnau lletygarwch (argaeledd prin iawn) ar gael i’w prynu yma