Scarlets yn arwyddo’r chwaraewr ail reng Harvey Cuckson o Gaerfaddon

Rob LloydFeatured

Mae’r Scarlets wrth eu bodd yn cyhoeddi bod y chwaraewr ail reng Harvey Cuckson wedi arwyddo o Gaerfaddon.

Mae’r clo 22 oed, sy’n 6 troedfedd 7 modfedd o daldra ac yn pwyso 120kg, yn ymuno â’r Scarlets yn dilyn dau gyfnod ar fenthyg yng ngorllewin Cymru’r tymor hwn, lle dangosodd yn gyflym ei allu i berfformio ar lefel y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Gwnaeth Harvey argraff wrth gael ei alw i fyny’n hwyr ar gyfer y gemau yn erbyn y Llewod a’r Sharks ar y daith i Dde Affrica. Chwaraeodd hefyd yng ngemau URC yn erbyn Glasgow, y Dreigiau ac Ulster.

Wedi’i fagu yng Ngogledd Cymru ac wedi chwarae ei rygbi cynnar yn Yr Wyddgrug, mae taith rygbi Cuckson i ddychwelyd i Gymru yn alinio gydag ymrwymiad y Scarlets i ddatblygu chwaraewyr sy’n gymwys i chwarae i Gymru.

Wedi cynrychioli Lloegr D18, lle cafodd ei enwi ar restr NextGenXV o chwaraewyr D18 gorau’r byd, roedd Harvey hefyd yn rhan o garfan D20 Lloegr ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Ne Affrica, ond i anaf dorri ei ymgyrch yn fyr.

Mae’n gymwys i chwarae i Gymru trwy ei fam-gu. Nawr, mae Harvey yn dychwelyd i Gymru gyda’r cyfle i greu argraff yn y gêm broffesiynol a chyfrannu at y cymal nesaf yn nhaith y Scarlets.

Mae ei ymddangosiadau i’r Scarlets ar hyd y tymor yn dangos ei botensial, yn ymosodol yn erbyn timau’r De Affrig yn ogystal â dangos ei sgiliau cyfrwys gyda’r bel wrth helpu Marnus van der Merwe groesi am gais yn Durban.

Chwaraeodd i dîm Caerwrangon yn y ddwy gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth Saesneg ac i Gaerfaddon ym mhum gêm Cynghrair Gallagher. Dechreuodd Harvery ei yrfa broffesiynol gyda’r Warriors cyn ymuno ag Academi Bath yn 2022.

Dywedodd Cyfarwyddwr dros dro’r Scarlets Nigel Davies: “Mae Harvey wedi creu argraff yn ystod ei amser gyda ni’r tymor hwn.

“Ymunodd â ni ar fyr rybudd o flaen taith heriol i Dde Affrica. Dangosodd lefel o aeddfedrwydd a chorfforoldeb a wnaeth sefyll allan yn syth. Gweithiodd yn galed yn amddiffynnol a dangos angerdd i ddysgu ac i wella’i gêm.

“Mae datblygu chwaraewyr sydd gyda chysylltiad i rygbi Cymru yn bwysig i ni. Mae Harvey yn chwaraewr ifanc gyda llawer o botensial, ac yn fwy pwysig, y meddylfryd i dyfu yn ein hamgylchedd.

“Rydym yn credu mai dyma’r lle cywir iddo i barhau ar ei daith ac i ni’n edrych ymlaen at weld ei ddatblygiad fel rhan o’r grŵp.”

Dywedodd Harvey: “Mwynheais fy amser gyda’r Scarlets yn gynharach yn y tymor. Mae’n glwb gyda hunaniaeth glir a chefnogaeth angerddol.

“Mae cael bod yn rhan o’r Scarlets a chwarae rygbi yng Nghymru yn gyfle enfawr i mi. Edrychaf ymlaen at yr her o chwarae yn y URC a dod i nabod y garfan dros yr haf.”

Harvey yw’r ail ychwanegiad at garfan y Scarlets am dymor 2026-27, yn dilyn cyhoeddiad y prop rhyngwladol Corey Domachwoski o Gaerdydd.

Mae’r clwb hefyd wedi cyhoeddi’r wythwr Fletcher Anderson a’r capten Josh Macleod fel chwaraewyr a fydd yn parhau gyda’r clwb gyda mwy o gyhoeddiadau i ddod dros yr wythnosau nesaf.