Mae carfan y Scarlets yn cychwyn ymarferion yr haf o ddydd Llun, yn barod i roi’r blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer yr ymgyrch newydd.
Ar ôl seibiant chwe wythnos yn dilyn y gêm yn erbyn y Dreigiau ym mis Mai, bydd y garfan, sy’n cynnwys llu o wynebau newydd, yn ôl at ei gilydd ym Mharc y Scarlets ar gyfer y bloc cyntaf o hyfforddiant.
Mae wedi bod yn haf prysur o recriwtio gyda saith llofnod newydd wedi’u cadarnhau.
Mae’r rhain yn cynnwys y cloeon Alex Groves o’r DHL Stormers a Harvey Cuckson, sydd yn gymwys ii Gymru, o Gaerfaddon – y ddau wedi chwarae i’r Scarlets ar fenthyg y tymor diwethaf.
Mae’r bachwr John McKee yn cyrraedd o bencampwyr URC Leinster, tra bydd George Roberts yn ychwanegu at y gystadleuaeth am grys Rhif 2.
Bydd croeso cynnes yn ôl i Lanelli i’r cefnwr ifanc talentog Isaac Murray-Macgregor, cefnder i ganolwr y Scarlets a Chymru Joe Roberts, a fagwyd yn y dref. Prop rhyngwladol Cymru Corey Domachowski oedd ein llofnod cyntaf i gael ei gyhoeddi a bydd yn edrych i wneud marc i lawr y gorllewin ar ôl degawd ym mhrifddinas Cymru.
Bydd ein recriwt diweddaraf, chwaraewr y Crysau Duon, Cullen Grace, yn chwarae i Canterbury yn y NPC a bydd yn ymuno â’r garfan ym mis Hydref.
O ran carfan Cymru a dan 20 y Scarlets, maen nhw’n cystadlu ar ddydd Sadwrn gydag wyth chwaraewr yng ngharfan 23 Steve Tandy i wynebu’r Barbarians yn Twickenham, tra bod Carwyn Leggatt-Jones, Jac Pritchard, Will Evans a Yestyn Cook yn rhan o dìm dan 20 yn eu gêm agoriadol Cwpan y Byd Iau yn Georgia.
O ran gemau gyfeillgar, rydym eisoes wedi cyhoeddi un gêm, yn erbyn tîm Saracens o’r Gynghrair Gallagher ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener, Medi 18, gyda dyddiadau pellach i’w cadarnhau yn yr wythnosau nesaf.
Mae’r cyffro’n cynyddu a gallwch fod yn rhan o daith y Scarlets ar gyfer 2026-27 trwy brynu tocyn tymor YMA
Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am luniau a fideos o Ddiwrnod 1.
