Mae Scarlets heddiw yn cadarnhau y bydd Leigh Jones, Cyfarwyddwr Perfformiad Rygbi, yn gadael y clwb mis yma yn dilyn ailstrwythuro’r adran rygbi.
Ymunodd Jones â’r Scarlets ym mis Gorffennaf 2024, cyn tymor 2024-25, gan ddod â phrofiad helaeth o amgylcheddau perfformiad rygbi elitaidd wedi gweithio ym maes rygbi rhyngwladol gyda Japan, Cymru a Hong Kong ac yn Uwch Gynghrair Gallagher gyda Leicester Tigers.
Mae Jones wedi goruchwylio elfennau allweddol o’r rhaglen perfformiad rygbi yn ystod ei gyfnod yn Llanelli, gan weithio’n agos gyda’r Prif Hyfforddwr Dwayne Peel ar feysydd amrywiol gan gynnwys strwythurau datblygu chwaraewyr, systemau perfformiad, dadansoddi a llwybrau meddygol a pherfformiad uchel ar draws yr amgylcheddau uwch ac academi.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Bwrdd y Scarlets wedi cwblhau adolygiad strategol o weithrediadau rygbi’r clwb a bydd nawr yn ailstrwythuro’r adran rygbi i gefnogi’r tîm hyfforddi uwch a hogi’r amgylchedd perfformiad uwch a pherfformiadau ar y cae. Yn dilyn y newidiadau, ni fydd rôl Jones yn parhau yn y strwythur newydd.
Dywedodd Cadeirydd Gweithredol y Scarlets, Simon Muderack: “Rydym yn diolch i Leigh am eibroffesiynoldeb a’i ymrwymiad i’n hamgylchedd rygbi dros y 18 mis diwethaf. Mae wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i’n clwb a hoffai pawb sy’n gysylltiedig â’r Scarlets ddiolch i Leigh am ei gyfraniad i’r Clwb a dymuno’r gorau iddo ef a’i deulu ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Leigh Jones: “Rwyf wedi mwynhau fy amser ym Mharc y Scarlets a gweithio gyda thîm y Scarlets yn ystod cyfnod deinamig a heriol iawn i Rygbi Cymru. Hoffwn fynegi fy niolch i’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff am eu cefnogaeth a’u cyfeillgarwch dros y 18 mis diwethaf. Rwy’n dymuno’n dda i’r clwb gwych hwn a’i chwaraewyr ar gyfer y tymhorau i ddod.”
Bydd y Scarlets yn darparu diweddariadau pellach ar newidiadau i’r adran rygbi yn fuan.
