Scarlets yn croesawu tîm Draig Goch o Batagonia i’r Parc

Rob LloydNewyddion, Newyddion Cymuned

Croesawodd y Scarlets tîm Draig Goch RC o Batagonia yn yr Ariannin wythnos hon, gan roi mewnwelediad ar werthoedd hanes y clwb yn ogystal â bywyd fel chwaraewr proffesiynol i’r chwaraewyr ifanc.

Roedd y chwaraewyr rhwng 15 ac 18 oed o dîm Draig Goch RC wedi teithio o’r Gaiman yn nhalaith Chubut, ac wedi treulio’r bore ym Mharc y Scarlets gan dderbyn taith o’r stadiwm wrth ddysgu am dreftadaeth a hunaniaeth falch y clwb.

Mae gan glwb Draig Goch cysylltiadau cryf â’r iaith Gymraeg, gyda’r tîm hefyd wedi ymweld â chlybiau fel Nant Conwy, Llambed a Tymbl yn ystod eu hamser yng Nghymru. Teithiodd y grŵp ar draws môr yr Iwerydd i Ddulyn wythnos diwethaf i gyfarfod â charfan Pumas yr Ariannin, sy’n cystadlu ar hyn o bryd ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd.

Yn ystod eu hymweliad â Pharc y Scarlets, a oedd wedi’i gefnogi gan ein partneriaid Castell Howell, roedd Prif Hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel a’r Rheolwr Gyfarwyddwr Jon Daniels yn rhannu hanes, gwerthoedd a gwaith y clwb i ddatblygu chwaraewyr ifanc yng Ngorllewin Cymru.

Aeth Dwayne a hyfforddwr sgiliau’r academi Phil John ati i gynnal sesiwn sgiliau i’r bois yn Arena Dan Do FSG.

“Roedd hi’n wych i groesawu tîm Draig Goch i Barc y Scarlets wythnos yma a chlywed y chwaraewyr ifanc yn siarad Cymraeg a gweld y dylanwad mae rygbi Cymru wedi cael ar ddiwylliant y clwb,” dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y Scarlets Jon Daniels.

“Gobeithiwn wnaeth y chwaraewyr a hyfforddwr mwynhau eu hamser gyda ni, ac ymfalchïo yn yr iaith a threftadaeth rydym yn rhannu.

“Dymunwn phob lwc i Draig Goch am weddill eu taith.”