Scarlets yn cryfhau’r garfan trwy arwyddo’r bachwr o Ogledd Cymru George Roberts

Rob LloydFeatured

Mae’r Scarlets wrth eu bodd yn cadarnhau ymrwymiad y bachwr George Roberts wrth i’r clwb barhau i gryfhau’r garfan cyn tymor 2026-27

Mae’r chwaraewr 28 oed o Ogledd Cymru yn cyrraedd Llanelli ar ôl gwneud argraff ym Mhencampwriaeth Lloegr ac yn ystod cyfnod byr gyda’r Dreigiau, lle wnaeth ei gorfforoldeb, ei gyfradd waith a’i angerdd i gystadlu denu sylw’n gyflym.

Yn wreiddiol o Wrecsam, daeth George trwy’r llwybr RGC cyn sefydlu ei hun fel ffigwr allweddol yn Doncaster Knights, gan wneud mwy na 100 o ymddangosiadau ac ennill enw da fel arweinydd uchel ei barch o fewn yr amgylchedd.

Cafodd cefnogwyr y Scarlets gipolwg ar ei ansawdd yn gynharach y tymor hwn pan chwaraeodd yn erbyn y Scarlets i’r Dreigiau ar Ddydd Calan, gan gynhyrchu arddangosfa ddeinamig fel eilydd a oedd yn cynnwys cais ac ymdrech unigol ragorol a gafodd ei diystyru gan y swyddogion.

Treuliodd George amser hefyd yn amgylchedd y Scarlets ar fenthyg cyn y gêm oddi cartref yn erbyn Leinster yn Nulyn – profiad a atgyfnerthodd ddiddordeb y clwb mewn dod ag ef yn barhaol i Barc y Scarlets.

Wrth drafod y cyhoeddiad, dywedodd George: “Rwy’n gyffrous iawn i ymuno â’r Scarlets. Pan ddes i i’r amgylchedd yn gynharach eleni, roeddwn i’n gallu teimlo’n syth yr uchelgais o fewn y grŵp a faint mae’r clwb hwn yn ei olygu i bobl. “Wrth dyfu i fyny yng Ngogledd Cymru, roedd y Scarlets yn glwb uchel ei barch. Mae hunaniaeth gref yma, diwylliant rygbi balch a disgwyliad gwirioneddol ynghylch sut mae’r tîm yn chwarae.

“Rwy’n berson sy’n mwynhau cystadlu a herio fy hun. Dwi am weithio’n galed, gwella fy ngêm ac ennill parch yr hyfforddwyr, chwaraewyr a chefnogwyr.

“Yn barod mae yna gystadleuaeth fawr o fewn y garfan a dyna’n gwmws y fath o amgylchedd rydych am fod yn rhan ohono fel chwaraewr. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gychwyn.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro’r Scarlets Nigel Davies: “Mae gan George’r fath o gymeriad a brwdfrydedd rydym eisiau o fewn yr amgylchedd yma.

“Mae’n dda iawn yn dechnegol, yn fygythiad yn ardal y dacl ac yn dod ag agwedd yn y ffordd mae’n cystadlu. Beth wnaeth hefyd sefyll allan ganddo oedd ei broffesiynoldeb.

“Daeth i mewn i’r amgylchedd yn gynharach y tymor hwn ac yn syth wedi ymgartrefi oherwydd y ffordd mae’n gweithio a’r safonau sydd ganddo iddo’i hun.

“Rydym wedi sôn lawer am gryfhau’r garfan a chreu opsiynau cryf o fewn safleoedd allweddol. Mae George yn ein cryfhau o fewn ardal bwysig a fydd yn aelod gwerthfawr o grŵp o fachwyr sydd yn barod yn cynnwys Ryan Elias, John McKee, Harry Thomas ac Isaac Young.

“Beth sy’n gyffrous i ni yw ei fod yn awyddus i wella ac mae am brofi ei hun. Dyna’r math o chwaraewyr sydd yn gwthio’r garfan ymlaen.”

George yw’r bedwerydd cyhoeddiad newydd wedi’u cadarnhau gan y Scarlets am y tymor nesaf, yn dilyn Corey Domachowski, Harvey Cuckson a John McKee.