Scarlets yn datgelu crys oddi cartref wedi’i ysbrydoli gan y 2000au cynnar

Rob LloydFeatured

Os oeddech chi ar un adeg yn berchennog balch o ffôn Nokia 3310, yn treulio lot gormod o amser ar MSN Messenger ac yn cofio mynd i Theatr Elli i weld The Lord of the Rings: The Two Towers, mae’n mwy na phosib y byddwch chi’n cofio’r crysau gwreiddiol a ysbrydolodd y cit oddi cartref 2026-27!

Mewn blwyddyn pan aned Fletcher Anderson, curodd Arsenal Chelsea 2-0 yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghwpan yr FA, ac enillodd Brasil Gwpan y Byd FIFA, collodd y Scarlets le yn rownd derfynol Cwpan Heineken ar ôl colli mewn modd dramatig i Leicester Tigers.

Fel y gwnaeth Avril Lavigne ein hatgoffa, roedd yn ‘Complicated’!

Os nad ydych chi wedi dyfalu’n barod, mae cit oddi cartref 2026-27 wedi’i ysbrydoli gan 2002!

Mae citiau oddi cartref dechrau’r 00au – gwyn gyda thrim coch a glas tywyll (2002-02) a glas tywyll gyda thrim coch a llwyd (2002-03) – yn dod at ei gilydd yn hyfryd yn rhifyn 2026.

Mae dyluniad cit oddi cartref VX3 yn gymysgedd trawiadol o ysgwyddau glas tywyll, band coch trwchus ar draws y frest wedi’i addurno â logo Grŵp Gavin Griffiths, a thorso gwyn. Perffaith i’w baru â’ch hoff bâr o jîns i fynd yn syth o’r eisteddle i’r dafarn.

Fe fydd y crys chwarae, sydd yn ffefryn gyda’r garfan yn barod, yn cael ei baru gyda shorts glas tywyll a sannau glas tywyll, coch a gwyn.

Mae Gavin Griffiths Group, Castell Howell, Cadog Homecare, CK Supermarkets, Dyfed Steels, Gravells, LBS, LHP Accountants, Lloyd & Gravell, Morgan Marine, Purus, TAD Builders a Vaughan Construction wedi adnewyddu eu cytundebau gyda’r Scarlets, gan gadarnhau eu hymrwymiad i’r clwb a’i uchelgeisiau ar y cae ac oddi arno, a byddant yn ymddangos ar dri chit chwarae’r clwb yn 2026-27.

Mae’r cit ar gael i’w brynu arlein ac yn y siop ynghyd â chit cartref 2026-27 a lansiwyd cwpwl o wythnosau’n ôl. 

Cadwch lygaid mas am y trydydd cit, a fydd i’w weld yn ystod ymgyrch Cwpan Her Ewrop y Scarlets.

Mae’n bosib prynu eitemau o ystod dillad ymarfer y tymor newydd arlein ac yn y siop hefyd.