Mae’r Scarlets yn falch iawn o gyhoeddi Tocyn Tymor Teulu, cynnig tocyn tymor agoriadol er mwyn gwneud y profiad o wylio rygbi byw yn fwy fforddiadwy i deuluoedd o bob cwr o’r rhanbarth.
Mae’r pecyn yn cynnwys tocyn tymor ar gyfer dau oedolyn dau blentyn o dan 16 mlwydd oed, gan roi’r cyfle i bawb fwynhau cyffro tymor y Scarlets gyda’i gilydd.
Mae’r Tocyn Tymor Teulu – sydd ar gael am £299, yn rhoi cyfle i gefnogwyr brofi awyrgyclh arbennig diwrnod gêm ym Mharc y Scarlets, tra’n cynorthwyo cefnogwyr presennol i rannu eu hangerdd gyda chenhedlaeth newydd o gefnogwyr.
Yn rhan o ymrwymiad y clwb i ehangu cymuned y Scarlets, mae’r pecyn newydd yn cynnig pris fforddiadwy iawn i deuluoedd fynychu gemau.
Dywedodd Jon Daniels, Rheolwr Gyfarwyddwr y Scarlets: “Mae’r cynnig Tocyn Tymor Teulu yn gyfle arbennig i deuluoedd ddod yn rhan o deulu’r Scarlets. Ry’n ni eisiau gwneud yn siwr bod cefnogwyr ifanc yn cael profi cyffro diwrnod gêm ac yn gallu creu atgofion arbennig ochr yn ochr â’i rieni ac aelodau ehangach o’r teulu. Mae’r pecyn yma’n lle da i deuluoedd gychwyn ar eu siwrne o gefnogi’r Scarlets.”
Cred y clwb y bydd y cynnig newydd yn creu gwell cysylltiadau gyda chefnogwyr ar draws y rhanbarth tra’n ysbrydoli cenhedlaeth newydd o gefnogwyr.
Mae’r pecyn Tocyn Tymor Teulu ar gael nawr yn S2 a N2, ac mae’n un o’r ffyrdd mwyaf fforddiadwy o gefnogi’r rhanbarth.
I brynu tocyn teulu ewch i tickets.scarlets.wales neu cysylltwch â’r swyddfa docynnau’n uniongyrchol ar 01554 29 29 39.
Ymunwch â theulu’r Scarlets, mwynhewch yr angerdd ar ddiwrnod gêm ym Mharc y Scarlets a crewch atogfion arbennig trwy gydol y tymor.
