Scarlets yn ychwanegu at y garfan am daith De Affrica

Rob LloydNewyddion

Mae Scarlets wedi ychwanegu dau chwaraewr ail reng i’r garfan ar gyfer y ddwy gêm yn Ne Affrica – ar gytundebau byrdymor.

Harvey Cuckson o Gaerfaddon ac Alex Groves o DHL Stormers fydd yn ymuno â’r Scarlets o flaen y gemau yn erbyn Emirates Lions a Hollywoodbets Sharks.

Ymunodd Harvey â Academi Caerfaddon yn 2022 ar ôl datblygu trwy system Worcester Warriors. Chwaraeodd rygbi rhyngwladol i dimau D18 a D20 Lloegr ac roedd yn rhan o garfan Lloegr ym Mhencampwriaeth y Byd D20 dwy flynedd yn ôl yn Ne Affrica. Ymddangosodd am y tro cyntaf i Gaerfaddon yn y fuddugoliaeth yn erbyn Exeter mis diwethaf ac roedd yn rhan o’r ddau gêm agoriadol i Worcester.

Yn rhan o garfan Camp Lawn D20 Lloegr, mae Alex sy’n sefyll yn 6tr 9m wedi treulio amser yng ngharfannau Bristol Bears a Sale Sharks, gan ymddangos i’r Sharks yn y Premiership Cup. Wedi’i eni yn Ne Affrica, ymunodd â’r Stormers ar ddechrau’r tymor ac roedd yn chwarae’n gyson i’r Western Province yn ystod eu hymgyrch Currie Cup.

Mae Max Douglas wedi anafu ei asennau yn ystod gêm y Stormers ar nos Wener, wrth i Steve Cummins ddychwelyd i’r Dreigiau.

Harvey Cuckson

Oed: 21

Safle: Ail reng

Clwb: Caerfaddon

Taldra: 201cm / 6tr 6m

Pwysau: 120kg /18 st 12lb

Alex Groves

Oed: 24

Safle: Ail reng

Clwb: DHL Stormers

Taldra: 207cm / 6tr 9m

Pwysau:120kg / 18st 12lb